Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHESYMOLDEB ADDOLIAD.

NATURIOL fuasai dechreu yr erthygl hon gydag ymchwiliad i ac eglurhad ar natur addoliad. Ond gan fod cryn lawer wedi ei ysgrifenu yn barod ar y mater;[1] fod pobl grefyddol a goleuedig yn meddu gwybodaeth brofiadol ac athrawiaethol fwy neu lai helaeth am dano; ac y teflir yn anuniongyrchol ryw gymaint o oleuni arno yn y drafodaeth hon, ystyriaf fod hynny yn afreidiol. Gweddus, pa fodd bynag, ydyw crybwyll fod addoliad, yn ei ystyr fwyaf mewnol a chuddiedig, yn cymeryd amrywiol agweddau; a gwna hynny, mewn rhan, oblegid fod bywyd ysbrydol y saint yn cymeryd, yn ol yr amgylchiadau y cânt eu hunain ynddynt, wahanol agweddau. Arweinir hwy, yn eu hamryfal helyntion, i gyfaddef eu pechodau eu hunain, ac i gydnabod bendithion Duw. Edifarhânt a gorfoleddant. Y maent yn credu ac yn crynu, yn ofni ac yn gobeithio. Diolchant am hen drugareddau, ac erfyniant am drugareddau newyddion. Ffieiddiant eu hunain, a gogoneddant yr Arglwydd. A chynhwysir y gweithrediadau hyn i gyd mewn addoliad. Gwnant y cyfan, i fesur bychan iawn, feallai, bob dydd; ond gwnant rai o honynt i raddau helaethach ar rai adegau, a rhai ereill i raddau helaethach ar adegau ereill. Gweddïant fwy heddyw; molianant fwy yfory. Ymlwybrant weithiau, mewn ofn pryderus, drwy gymoedd dyfnion, culion, llawnion o dywyllwch di-sêr. Rhodiant brydiau ereill mewn eangder heulog, trwy brydferthion a pheraroglau, yng ngolwg gwlad well a byd di-nôs. Ac os yw profiadau saint y byd hwn yn amrywio cymaint a hyn, hawdd ydyw credu yr hyn a ddysgir i ni,—fod gwahaniaeth mawr rhyngddynt hwy à saint y byd tragwyddol. Caniateir mai ychydig mewn cymhariaeth o fawl sydd yn yr Eglwys filwriaethus; nid oes dim arall yn yr Eglwys orfoleddus.

  1. Gwel yr Erthygl gyntaf.