Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae mwy o erfyn nag o ddiolch, a mwy o edifarhau nag o glodfori, yng ngwasanaeth y flaenaf. Y mae yr olaf wedi esgyn i sefyllfa mor ogoneddus, fel nad oes ynddi le i weddïo—i ddymuno am ddim o gwbl; ac nid ydyw mwyach yn feddianol ar allu i edifarhau. Wrth golli ei phechod, collodd ei ffydd; a gweled, yn hytrach na chredu, y mae erbyn hyn. Troes ei gobaith yn fwynhad yn yr olwg ar Bren y Bywyd. Gwesgir y duwiolion yma i ymdeimlo yn barhaus â diffygion a phechodau adgofion yn unig am y cyfryw bethau a feddant yn y Nef. A gwyddom y gall adgofion am lawer o hen gyfyngderau gynhyrchu rhyw fath o hyfrydwch yn y fuchedd bresenol; a naturiol ydyw casglu fod adgofion y cyfiawnion am helbulon daearol yn chwyddo iddynt wynfydedigrwydd paradwys Duw. Oblegid hynny, gan fod yr Eglwys weledig yn feunyddiol yng nghanol temtasiynau a pheryglon, ymbil yn benaf o lawer y mae hi; gan fod yr Eglwys anweledig mewn dedwyddwch perffaith, y mae hi yn moliannu yn ddibaid.

Dylid, yr un pryd, ystyried, er mor luosog ydyw rhwystrau y ddaear, ac er mor fawrion ydyw manteision y Nef, y gallai addoliad y gyntaf fod yn debycach i addoliad y ddiweddaf nag ydyw. A byddai felly o angenrheidrwydd pe byddai cymeriadau y credinwyr yn debycach nag ydynt i gymeriadau y gwaredigion. Pe byddai ein ffydd yn gryfach, byddai ein hofnau yn wannach. Pe derbyniem fwy o ras, profem fwy o dangnefedd. Pe byddem yn llawnach o gariad a sancteiddrwydd, byddem yn llawnach o ddiolchgarwch a mawl. Prinder, ac nid helaethrwydd, o grefydd, sydd yn ein gwasgu i ofni yn hytrach na gobeithio, ac yn ein cadw yn barhaus mewn sefyllfa o ddymuniad yn hytrach nag o fwynhâd. Pechadurusrwydd sydd yn gwneyd y byd yn anialwch i ni, ac yn toi ein ffurfafen â chymylau. A dengys holl rediad y Beibl fod yr Arglwydd yn disgwyl i ddynion, yn ychwanegol at weddïo arno, ei glodfori yn y fuchedd hon. Ac ni fu pobl erioed mewn amgylchiadau mwy manteisiol ac o dan fwy o rwymau i wneuthur hynny nag ydym ni, mewn gwlad ac oes fel hon. Yna, gan ei fod Ef yn galw am addoliad a gwasanaeth oddiwrthym