Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhaid fod eu cyflwyno iddo yn ddyledswydd arnom, oblegid nis gall Ef ofyn am yr hyn nad yw yn meddu hawl iddo, nac am ddim y byddai yn ddiraddiad arnom ninnau ei roddi. Rhaid hefyd fod ei foliannu drwy y cynneddfau a roddodd i ni, a thrwy y cynorthwyon all gyfrannu i ni, yn ddichonadwy i ni. Ymdrechu egluro hyn fydd fy amcan yn y sylwadau canlynol.

Y mae geiriau fel addoli a moliannu yn tybied dwy blaid—Creawdwr a chreaduriaid, neu Waredwr a gwaredigion, ac yn tybied ynddynt hefyd fesur o adnabyddiaeth o, a chariad at eu gilydd. A ydyw dynolryw yn lled gyffredinol yn adnabod Duw ac yn caru ei Fab? Gwyddom fod perthynas rhyngddynt; ond nid ydyw honno yn sicrhau, ymhob amgylchiad, fod cymundeb rhyngddynt. Prin y gall meddwl anianol weled y rhesymoldeb o addoli yr Arglwydd; ac ychydig iawn o duedd sydd mewn calon lygredig at waith mor ysbrydol. Cawn eu bod ymhob oes yn cydgenhedlu amheuon ac yn cydofyn—weithiau yn fwy ac weithiau yn llai croch-gwestiynau anhydyn, yngwyneb pob cymhelliad i wneuthur hynny. Gwnelent hynny gynt: Exod v. 2, Job xxi. 15, Mal. iii. 14, &c. A gwnant hynny yn awr.—Oddiar ba seiliau y gelwir ar ddynion i addoli y Jehofah? Paham y dylem ymgyflwyno yn yr hyn oll ag ydym, a allwn, ac a feddwn iddo? Pa fanteision y mae ei greaduriaid yn sicrhau iddynt eu hunain wrth wasanaethu eu Creawdwr? &c. Bu llawer o eneidiau yn ddigon rhyfygus i wadu ei hanfodiad yn hollol; a choledda miloedd yn bresenol y fath amheuaeth gyda golwg arno ag sydd yn gyfystyr â gwadiad ohonno fel Bod byw a phersonol, cyfiawn a thrugarog. Dichon mai addas fyddai mynegu yn y cysylltiad hwn nad ydyw y Beibl yn amcanu yn ffurfiol at brofi ei fodolaeth. Ei gyhoeddi, yn hytrach nag ymresymu yn ei gylch, fel y gwirionedd mwyaf ac, ar rai cyfrifon, amlycaf, y mae, o Genesis hyd y Datguddiad. Pa beth arall fuasai yn ddoeth ac yn ddichonadwy? Y mae Natur a Rhagluniaeth yn ei ddatguddio yn foddhaol i bob meddwl agored i argyhoeddiad. Ac nis gallai unrhyw nifer ychwanegol o resymau Ysgrythyrol foddloni dynion eithriadol—rhai ag y mae yn eu cyfansoddiad