anadlwn. A phwy hoffai, pe gallai, fodoli hebddo! Mor oer fyddai y presenol, ac mor dywyll fyddai y dyfodol! Efe yw "gobaith holl gyrrau y ddaear." A phe cyrhaeddai rhyw ddyn sicrwydd yn ei feddwl ei hun mai dychymyg ofer ydyw Ef, ac mai breuddwyd gwag ydyw ei Ragluniaeth, oni phetrusai fynegi hynny i ereill? Naturiol fyddai iddo gadw syniad mor ofnadwy, ac mor ddystrywiol i holl ragolygon ei gydgreaduriaid, o fewn ei enaid, nes y rhoddai ef ar dân. Onid ymwisgai, cyn dechreu pregethu y fath athrawiaeth, mewn sachlïan a lludw? Gweddeiddiach fyddai cyhoeddi y fath genadwri bruddaidd drwy ei hubain allan mewn ocheneidiau a gruddfanau, nag, fel y gwna rhai, mewn gorfoledd. Oblegid byddid wrth dynnu yr Anfeidrol oddiwrth swm bodolaeth, yn cynhyrchu gwagle aruthr. Mor ychydig a fyddai yn aros. ac mor druenus a fyddai cyflwr y gweddill! Byddai creadigaeth heb Greawdwr mewn sefyllfa waeth na byd heb haul. Mor hyfryd ydyw meddwl fod rheswm ac Ysgrythyr yn cyd-dysgu fod Duw yn bod! A chredu ei fod Ef yn bod ac yn llywodraethu amgylchiadau nefoedd a daear, ydyw sail ein holl obeithion; ac nis gallwn gredu hynny heb weled a theimlo y rhesymoldeb o addoli y Llywodraethwr.
Dyma Wrthrych addoliad—"Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear." Ac y mae yn wrthrych addoliad am fod holl seiliau addoliad yn cyd-gyfarfod ynddo. Y rheswm sylfaenol dros ei glodfori ydyw, yr hyn yw Efe ynddo ei Hun—mawrhydi anfeidrol ei natur, gogoniant anchwiliadwy ei hanfod. Ond y mae yn y golygiad hwn ymhell lawn oddiwrthym ni, ac yn ddieithr iawn i ni. "Ni welodd neb Dduw erioed," ac ni wêl neb byth mo honno yn yr ystyr hon. Trig mewn goleuni mor danbaid, fel nad ellir yn oes oesoedd agoshau ato. Yn ei gymeriad a thrwy ei briodoliaethau yn unig y gallwn ei adnabod; ac ymddatguddiant hwy i ni drwy ei weithredoedd a thrwy ei oruchwyliaethau, ac, yn arbennig, yn a thrwy y Beibl ac Iesu Grist. Gwelwn trwyddynt hwy fod ynddo fawredd a gallu anfeidrol, doethineb a golud diderfyn, cariad a sancteiddrwydd annherfynol. Cyfiawn a gweddus, o ganlyniad, ydyw i