Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bawb ei fawrygu. Y mae yn gyfryw mewn ardderchogrwydd, fel nad all y creaduriaid mwyaf a goreu ddiraddio eu hunain wrth ymgrymu ger ei fron. Cynhyrcha ym mhawb sydd yn ei adnabod ostyngeiddrwydd a diolchgarwch. Llenwir hwy yn yr olwg ar ei ogoniant â syndod ac addoliad. Deffry pelydrau ei ddaioni ynddynt obaith a mawl. A ydyw dyn yn adnabod ei Greawdwr? A ydyw yn ddigon goleudig i weled ei hawliau arno, ac yn ddigon pur i deimlo ei rwymedigaethau iddo? A ydyw yn ddigon ysbrydol i dderbyn argraffiadau oddiwrth ei gymeriad? A ydyw yn feddiannol ar gynneddfau addas i ddal cymundeb âg Ef?

Nis gallwn ateb y gofyniadau hyn yn gwbl gadarnhaol, nac yn hollol nacäol. Er fod pechadur yn hunanol a dirywiedig, yn ddaearol a llygredig, arddengys ddymuniadau am rywun a rhywbeth uwch a gwell nag ef ei hun. Llywodraethir ef gan ddwy egwyddor: o dan ddylanwad y naill, y mae yn ceisio Duw; o dan ddylanwad y llall, gwelir ef yn gwrthryfela yn ei erbyn. Mor bell ag y mae yn ddynol, y mae yn ubain am dano; mor bell ag y mae yn ddrygionus, y mae yn ffoi oddiwrtho. Yn debyg i ddafad ar gyfeiliorn, yn ymbellhau oddiwrth ei chynhefin wrth chwilio am dano, y mae yntau, ar y naill law, yn cilio oddiwrth yr Arglwydd, ac, ar y llall, yn ymofyn gydag ymroddiad am dano. Un o ffeithiau amlycaf hanes dyn ydyw, ei fod yn dlawd. Chwennych, ac nid mwynhau, y mae. Y mae ymhob man ac ymhob sefyllfa, y tu allan i Grist, yn amddifad o rywbeth nas gŵyr yn iawn pa beth, ac yn hiraethu am rywun nas gŵyr yn iawn ei enw. Ymestyn am wrthrych neu sylwedd sydd yn encilio rhagddo, yn hytrach na gorffwys, y mae yn feunyddiol. Ymlwybra gyda chalon anesmwyth a llygaid pryderus trwy ddinasoedd a chyfandiroedd, gan holi yn floesg rai yn yr un cyflwr ysig ag ef ei hun: "A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid," ac ochain,—"O na wyddwn pa le y cawn ef!" Am Dduw y mae yn ymofyn. Ei amddifadrwydd o hono ef ydyw ei newyn mawr. Gall anghenion a dymuniadau ereill newid a diflanu; dilyna hwn ef trwy bob cyfnewidiad ac i bob byd. Er iddo fel hyn adael ei Greawdwr, nid ydyw erioed