ryw fesur o chwilfrydedd, a phar iddynt ddamcanu yn eu ffordd eu hunain ynghylch bodolaeth a bywyd. Arddengys yr enaid fel hyn, yn nghanol tywyllwch dudew, rywfaint o gariad at oleuni. Os ydyw yn ddall, dall ydyw a hoffai weled yr haul. Wrth i ddyn gynyddu mewn gwareiddiad a diwylliad, daw ei ymchwiliadau yn fwy rheolaidd. Ymgryfhâ ei adenydd, ac y mae yn ehedeg ymhellach ac yn uwch. Ymofyna gyda mwy o aidd am Achos Cyntaf pobpeth. Ymweithia hwnnw yn un o angenrheidiau ei fywyd meddyliol; a daw chwilio am dano yn un o reddfau cryfaf ei ysbryd. Tybier ei fod yn ei gael, a bod yr Achos hwnnw yn profi ei Hun iddo yn Berson byw, cyfiawn a thrugarog, llawn o ddoethineb a nerth, anfeidrol mewn cariad, sancteiddrwydd a gogoniant; oni fyddai yn naturiol iddo ymgrymu ger ei fron, a chyflwyno iddo foliant ei galon? Onid y peth mwyaf rhesymol a hyfryd i enaid gweddol bur, fyddai addoli a gwasanaethu y cyfryw Fod?
Gallwn ddarlunio rheswm hefyd fel gallu i adnabod, olrhain, a charu gwirionedd. Dengys yn ei ddyryswch mwyaf fesur o ymofyniad am dano ac o barch iddo. Gresynnwn wrth feddwl fod trigolion y wlad hon, oes neu ddwy yn ol, yn adrodd ac yn gwrando y chwedlau mwyaf disail a llygredig gyda syndod a boddhâd. Ond dylem gadw mewn cof eu bod yn gwneyd hynny o herwydd eu bod, i raddau mwy neu lai, yn credu y cyfryw chwedlau, ac yn derbyn rhyw fath o gynaliaeth feddyliol o honynt. Wedi ymddirywio a cholli y danteithion brenhinol, porent laswellt—rhywbeth yn hytrach na bod heb ddim, fel Nebuchodonosor. Gweddus ydyw ystyried mai nid er mwyn gallu pasio arholiadau ac ennill gwobrwyon, y mae pobl yn darllen bob amser. Gwnant hynny yn aml, ac weithiau yn ddiarwybod iddynt eu hunain, er mwyn tawelu anesmwythder ac ateb gofyniadau dyfnaf eu hys brydoedd. Paham y treulia ambell i ddyn ei oes i efrydu hen iaith sydd wedi marw er ys canrifoedd? Am ei bod yn dal yn ei llaw drancedig rai gronynnau o wenith gwirionedd; am mai hi, erbyn hyn, ydyw yr unig beth sydd yn taflu goleuni ar nodweddion y genedl oedd yn ei siarad, ac ar briodoliaethau y duwiau a addolai. Diau