fod llawer o athronwyr y byd yn gyfeiliornwyr; ond camsyniad mawr a fyddai tybied eu bod yn caru cyfeiliornad, ac mai am gelwydd yr ymchwiliant. Yn hytrach, yn eu holl olrheiniadau wrth holi creigiau y ddaear, neu ddarllen sêr y nefoedd, neu ymwthio i lawr i ddyfnderoedd eu natur eu hunain, am wirionedd yr ymofynant yn barhaus. Gwesgir ni fel hyn, ar bob llaw, i gredu fod yr awydd am wirionedd yn un o anghenion mawrion a hanfodol y ddynoliaeth. Ar gyfer hynny, cawn mai Duw y gwirionedd ydyw yr Arglwydd; fod y Gwaredwr yn wirionedd yn gystal ag yn ffordd ac yn fywyd; ac mai Ysbryd y gwirionedd ydyw yr Ysbryd Glân. Ymddengys felly fod rhywfaint o gydnawsedd rhyngddynt, a bod mesur o gymdeithas rhyngddynt yn beth dichonadwy. Gwelwn yn ymhyfrydiad y ddwyblaid mewn gwirionedd, lain o dir cyffredin ag y gall y ddwy, mewn lawn, gyd-gyfarfod arni i garu eu gilydd. Y mae dyn wedi cael ei lunio ar gyfer ei Greawdwr, fel y mae y blaned wedi cael ei chreu ar gyfer ei haul; ac y mae yn y cyfatebiaeth hwn ddefnydd cyd-ddealltwriaeth a chymundeb rhyngddynt. Onid allai yr ysbryd bach, daearol, wrth gael ei iachau drwy yr Efengyl, ymgodi at yr Ysbryd mawr, tragwyddol, mor naturiol ag yr ymlifa yr afonig at y môr? Caniateir hefyd mai yn yr olaf yn unig y boddlonir y blaenaf. Y mae yn y greadigaeth lawer o wirionedd; ond nis gall ddiwallu enaid—am ddau reswm: nid oes ynddi ddigon o hono—yfai dyn yn gynt neu hwyrach ei ffynhonnau hi yn sychion; ac nid ydyw hynny sydd ynddi o ansawdd ddigon ysbrydol. Mor hyfryd ydyw meddwl nad all, er ei fod weithiau yn ymdaith ymhell iawn, weled yn oes oesoedd derfyn ar Dduw. Er ei fod yn eryr mawreddog, caiff ynddo Ef ffurfafen ddigon eang a digon uchel i chwareu ynddi byth bythoedd.
Yn ychwanegol at reswm, y mae yn perthyn i natur foesol dyn allu arall y gydwybod. Swydd hwn ydyw gwahaniaethu rhwng drwg a da, a gwahardd y naill a chymhell y llall. Y mae yn ymofyniad mwy neu lai dyfal am gyfiawnder, ac yn dystiolaeth fwy neu lai eglur yn yr enaid am a thros Dduw. Amlyga ei hun i ysbryd pechadurus trwy ymdeimlad mwy neu lai poenus o