Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

euogrwydd; a chynhyrcha mewn calon rinweddol brofiad o dawelwch gobeithiol. Afreidiol ydyw crybwyll fod y gynneddf hon, fel pob un arall, yn amrywio yn fawr mewn gwahanol bersonau; ac y mae, i raddau, yn ddirywiedig ymhawb ar y ddaear. Mewn rhai y mae yn rymus a dylanwadol; mewn ereill y mae yn farwaidd a bloesg. Mewn dynion gweddol oleudig a phur, y mae yn brofiad o rwymedigaeth a dyledswydd, ac yn ymdeimlad o awdurdod egwyddorion moesol a thragwyddol. Mewn eneidiau tywyll a llygredig, ymddyrysa yn fynych; cyll i fesur helaeth ei hadnabyddiaeth o ddaioni a drygioni; a bu yn euog lawer gwaith, o dan y cyfryw amgylchiadau, o garcharu a lladd anwyliaid ei Chreawdwr. Parhâ er hynny, yn ei holl ddirywiad, yn reddf o ffyddlondeb i bopeth a ymddengys iddi hi yn iawn. A doeth fyddai i bob dyn ystyried fod ganddo lawer o allu i niweidio ei gydwybod, a rhywfaint o allu i gadw ei thynerwch yn fyw. Y ffordd i wanychu ei harglwyddiaeth ydyw, dirmygu ei phryderon a gwrthsefyll ei hawgrymiadau. A pho fwyaf o hynny a wnawn, gwaethaf oll, a phellaf yn y byd oddiwrth yr Arglwydd, yr awn. Y modd i gryfhau ei dylanwad ydyw ei hanrhydeddu—parchu ei gwaharddiadau ac ufuddhau i'w gorchymynion. Yn ol mesur ein hymroddiad gyda hynny, arweinir ni yn barhaus i fwy o oleuni; ymddengys cyfiawnder i ni o hyd yn fwy hawddgar; ymddyfnhâ ein cydymdeimlad â rhinwedd ymhob ffurf; a chawn ein hunain yn neshau i bresenoldeb Tad ein hysbrydoedd. Gweithir ni fel hyn, wrth i ni ymostwng i alluoedd uchaf ein natur, i gyfeiriad yr Anweledig; deffroir i fesur ein dymuniadau dyfnaf, ymdraidd tragwyddoldeb yn achlysurol trwy ein heneidiau, a chymhellir ni i addoli Awdwr ein bod.

Trwy ein meddiant o reswm a chydwybod, yn arbennig, yr ydym ni yn "hiliogaeth Duw." Derbyniasom ynddynt hwy rywfaint o'r hyn sydd yn anfeidrol ynddo Ef. Adlewyrchir ei briodoliaethau sanctaidd a gogoneddus i raddau bychain iawn, trwy ein cynneddfau hurt a dirywiedig ni. Y mae y gydwybod, er holl ddylanwad llygredigaeth, yn llefaru am dano; deil drwy yr oesoedd i lefain yn floesg yn niffaethwch y ddaear am ei bresenoldeb.