Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Perthyna iddi hi, fel i Abïah mab Jeroboam, "beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel." Gall, fel hwnnw, fod yn glaf mewn miloedd o bobl; ond nis gall, fel hwnnw, farw yn yr un o honynt byth. Ar ol i alluoedd ereill yr enaid droi yn eilunaddolwyr, parhâ hi, yn debyg i Daniel, i agoryd ei ffenestri, ac i edrych i lawer cyfeiriad am yr Ior. Nis gall wrth fyned yn ddall a mud a byddar, beidio gruddfan oblegid drygioni, ac ubain am gyfiawnder. Y mae yn ei chwsg dyfnaf yn breuddwydio am Dduw. Cyfyd yn awr ac yn y man megis drwy ei hûn, i chwilio yn nos dymhestlog y galon am y pyrth clöedig, ac i geisio troi y bolltau yn eu holau er mwyn gollwng ei Hanwylyd i mewn. Caiff ei hun mewn miloedd o ddynion, mewn llawer gwlad ac oes, fel morfil ar y traeth, yn methu byw ac yn methu marw. Yn yr Arglwydd yn unig y mae môr digon ëang a dwfn, a digon pur a phêr, ar ei chyfer. Dengys ystyriaethau fel hyn ein bod ni ein hunain—y natur ddynol ynddi ei hun, yn llawn o ryw ymofyniadau am ein Creawdwr. Ein pechadurusrwydd yn unig sydd yn peri i ni ymbellhau oddiwrtho. Onid ydyw y gydwybod, yn ei dallineb mwyaf, yn ymbalfalu am dano, ac yn annog, wrth gael rhyw olwg arno, ei chyd-alluoedd i ymgrymu ger ei fron, ac i gyflwyno moliant a gwasanaeth iddo? Wrth gael ei goleuo a'i phuro, daw o hyd yn fwy o gydnawsedd â phrïodoliaethau, ac yn fwy o gydymdeimlad â gorchymynion y Jehofah. Wrth ymolchi yng ngwaed ac ymborthi ar gyfiawnder Crist, enilla nerth a dylanwad cynyddol. Cymhella yr holl enaid i ymweithio i fwy o agosrwydd at, ac i deimlad dyfnach o rwymedigaeth i Dduw; daw yn gynrychiolydd ffyddlawn iddo yn natur y credadyn; a chynorthwya i wneyd ei addoliad y peth mwyaf greddfol a gwynfydedig iddo mewn bod.

Elwn yn rhy faith wrth fanylu fel hyn ar holl alluoedd ein natur. Meddylier am ewyllys, calon, ac ysbryd dyn,—er eu bod, trwy ymlygru, wedi colli yr olwg ar eu gwir wrthrychau, parhant i deimlo eu hamddifadrwydd honynt, ac i anadlu dymuniadau wylofus am danynt. Daliant i ochain am ddaioni annherfynol, am brydferthwch anniflanol, ac am sylweddau tragwyddol. Cenedlant ddyhëadau diderfyn; ac wrth fethu cael gafael ar