Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fendithion diderfyn, ceisiant ymborthi ar wrthrychau am serol—ar olud daearol, clod dynion, pleserau anianol. Ond nid ydynt wrth ymborthi arnynt hwy yn ymddigoni. Yn hytrach, ymddyfnhau ac ymeangu yn barhaus y mae tlodi a dymuniadau siomedig ein natur wrth gyfranogi o honynt hwy. Y mae dyn wrth gael, yn ymagor, gan fyned yn fwy o hyd, yn ol fel y bydd ei amgylchiadau yn gwellhau. Po uchaf yr esgyna ymwelydd ar dŵr neu fynydd, eangaf oll fydd y golygfeydd a ymagorant ger ei fron; felly hefyd, po fwyaf o gyfoeth ac o anrhydedd daearol a dderbyniwn ni, dyfnaf oll, os na feddwn rywbeth arall, fydd ein hawydd am ychwaneg. Nis gall unrhyw fasnach nac etifeddiaeth foddloni enaid. A chlywsom am un gŵr, ar ol gorchfygu y byd hwn, yn wylo am fydoedd ereill i'w darostwng. Eisieu dyn ddengys ei fawredd oreu. Gŵyr lawer; ond nid ydyw ei amgyffredion mor ëang ag ydyw ei ddymuniadau. Nid ydyw ei feddwl gymaint ag ydyw ei galon. Gwna bethau yn yr oes hon a fuasent yn ymddangos fel gwyrthiau oes yn ol; ond nid ydyw yn gwneyd pethau digon mawrion i beri iddo ymdawelu ynddynt. Nis gall gweithredoedd y Creawdwr foddloni creadur rhesymol; y Creawdwr ei Hun yn unig a ddichon wneuthur hynny. A dymuniadau am dano Ef, wedi ymddyrysu i raddau mwy neu lai ymhob dyn, ydyw dymuniadau uchaf enaid. Anghenion am yr Anfeidrol wedi ymwallgofi mewn miloedd o bobl, ydyw anghenion dyfnaf pechadur. Gellir ei gymharu i ëog ieuanc, yr hwn, ar ol cael ei fôd a chwareu am ennyd mewn afonig yn y wlad, sydd cyn pen hir yn anesmwytho, ac yn myned i chwilio am rywle yn yr afon lle y mae hi yn ddyfnach ac yn lletach; ac yna, wedi ymddifyru yno am ysbaid, sydd drachefn yn myned i edrych am rywle dyfnach a lletach ynddi, ac felly ymlaen o hyd. Gan ei fod yn cynyddu, nis gall orffwys nes cyrraedd y môr. Yn gyffelyb gyda golwg ar ddyn,—y mae pob etifeddiaeth yn rhy fechan, a phob anrhydedd yn annigonol. Yfai yn gynt neu hwyrach bob afon a llyn i fyny. Yn yr Arglwydd yn unig y diwellir ac y boddlonir ef. Y mae ynddo Ef gyflawnder perffaith, ac y mae y cyflawnder hwnnw (Col. i. 19, ii. 9, &c.) yng Nghrist; a gwahoddir