drwy yr holl Feibl y pechaduriaid gwaethaf at y cyflawnder tragwyddol.
Ymddengys fel hyn, gan nad beth neu faint a gollasom, na chollasom ein holl gynysgaeth. Ymdrechais ddangos fod ynom eto rywfaint o allu i adnabod gwirionedd, cyfiawnder, a daioni, ac awydd mwy neu lai grymus am danynt; mai drwy gyfranogi ohonynt hwy yn unig y gallwn ni ddyfod yn sanctaidd a dedwydd; mai yn Nuw y ceir hwynt ynddo Ef yn unig y ceir hwynt yn yr helaethrwydd ac yn y purdeb angenrheidiol, oblegid gwahanol agweddau ar ei natur ac ar ei gymeriad Ef ydynt. Gwelir felly mai drwy gael ein dyrchafu i adnabyddiaeth o, i gymundeb à, ac i fwynhad o honno Ef, y gallwn ni gyrraedd y sefyllfa oreu ac uchaf sydd yn ddichonadwy i ni. Ac y mae Iesu Grist yn ffordd i hyn i gyd. Parhawn hefyd yn y meddiant o dueddiadau addolgar—deillion a llygredig, amddifaid iawn o fywyd a chariad, mae yn wir, erbyn hyn; ond y maent yn bod. Yr oedd dyn ar y cyntaf, fel pob creadur—fel yr aderyn i ehedeg yn yr awyr, ac fel y pysgodyn i nofio yn y môr—wedi cael ei gyfaddasu drwy synwyrau ac aelodau i fyw ar y ddaear, a thrwy gynneddfau ac egwyddorion ei natur foesol i adwaen ac addoli ei Greawdwr. Ac os ydyw wedi ymddirywio, ac ymddirywio yn ddirfawr, y mae yn ei galon yn bresenol, gan nad i ba ddyfnder y mae wedi disgyn, ofid yn mud-losgi oblegid yr hyn ydyw, a hiraeth yn ubain am yr hyn oedd ac a feddai. Y mae ynddo ymofyniadau bloesg am yr Annherfynol, a dyheadau myngus am y Dwyfol. Rhaid, gan hynny, fod ynddo ryw ddichonoldeb ardderchog. Gan ei fod yn dlawd—yn newynog a sychedig am Dduw, er nad yw feallai yn ei adnabod, ac yn chwilio mewn gwahanol ffyrdd ymhob gwlad ac oes am dano; a bod Duw yn gyfoethog, yn barod i drugarhau wrtho, yn ei wahodd yn barhaus ato, ac yn defnyddio mil a mwy o foddion i geisio ei ddenu ato, a fyddai yn rhyfedd iddynt gyfarfod eu gilydd? Pe gwnelent, oni fyddai cymundeb rhyngddynt, mewn Cyfryngwr, y peth mwyaf naturiol a hyfryd mewn bod? Nis gallaf ddychmygu am ddim mwy rhesymol ac uniawn nag i ddyn, wrth dderbyn bendithion tymhorol ac ysbrydol oddiwrth