yr Arglwydd, ddiolch iddo am danynt, ei foliannu yn y mwynhad ohonynt, ac ymgyflwyno yn gyfangwbl mewn gwasanaeth iddo. Gwesgir fi i feddwl fod arno gymaint o angen am dano, fel y byddai bodolaeth hir, dragwyddol, hebddo, yn annioddefol—yn uffern iddo. Pe profai yr adyn rhyfedd feddyginiaeth yr Efengyl, deuai addoli ei Greawdwr y gwaith mwyaf greddfol a gwynfydedig, yn gystal a mwyaf rhesymol ac uniawn, y gall byth ymgymeryd âg ef. Mor hyfryd ydyw meddwl y gallant gyfarfod yn y byd hwn! Er mor bell oddiwrth eu gilydd ydynt er mor fawr ac uchel ydyw Un, ac er mor fychan ac isel ydyw y llall, gallant agoshau at eu gilydd a chymdeithasu mewn lawn. Gal yr Anfeidrol ddal cymundeb âg abwydyn dirywiedig yng Nghrist. "Duw ysbrydion pob cnawd," drwy ei Ysbryd ei Hun, a thrwy y cynneddfau a roddodd iddynt hwy, weithio ei ffordd at ysbrydoedd, ac i galonau ei greaduriaid, gan ddatguddio ei Hunan iddynt, nes eu llanw â gwynfydedigrwydd tragwyddol. Oblegid y mae ei ddaioni gymaint ag ydyw ei fod; y mae ei gariad mor fawr ag ydyw ei nerth.
Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/42
Gwedd