Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR YSBRYD GLAN.

YMGYFLWYNA y mater hwn i sylw mewn pedair gwedd: Natur, Person, Cymeriad, a Gwaith yr Ysbryd Glân.

I. EI NATUR.

Ymddengys mai ystyr gyntaf y gair ysbryd oedd awel neu wynt. Oddiwrth hynny daeth i olygu unrhyw allu neu weithredydd anweledig, megis enaid, angel, &c. Yn gymaint a bod yr awyr yn rhywbeth mor gyffredinol, ac yn dylanwadu ar bob peth, yn hanfodol i bob bywyd daearol, ac nad ellid ei weled, meddai lawer o gymhwysder i fod yn enw ar yr Anfeidrol. Ysbryd yw Duw." Gosodir Ef allan drwyddo fel Bod deallol, a rhydd oddiwrth bob ffurf ar fater. Ond gan fod yr hanfod Ddwyfol i gyd yn ysbrydol, paham y gelwir y Trydydd Person ynddi yn Ysbryd? Am ei fod Ef mewn modd arbennig yn ysbryd—yn allu ac yn ddylanwad annherfynol. Trwyddo Ef yn neillduol yr amlygir nerth ac effeithioldeb y Duwdod. Fel y mae y Mab yn dadguddio y Tad, y mae yr Ysbryd Glân yn sylweddoli ei fwriadau, ac yn dwyn i ben ei amcanion Ef. Efe yw y gweithiwr Dwyfol. Efe yw y Gwynt bendigedig sydd yn trosglwyddo bywyd, grym, a dylanwad, i bawb ymhob man. Cawn fel hyn afael ar un gwirionedd pwysig o berthynas i natur y Trydydd Person yn ei enw, ysbryd ydyw: sylwedd pur, anweledig, di-gorff, di-rannau, o allu a dealltwriaeth di-derfyn.

Ffordd arall i gyrraedd rhyw syniad am natur yr Ysbryd Glân ydyw olrhain ei darddiad. Dysgeidiaeth y Beibl ar hyn ydyw, ei fod yn deilliaw oddiwrth y Tad (loan xv. 26). Deallid hyn o'r dechreuad; ond y mae chwilfrydedd yn elfen gref yn y meddwl dynol; ac arweiniai bobl yn foreu i ofyn cwestiynau gyda golwg ar y mater. Gofynent ai oddiwrth y Tad yn unig y deilliai Efe, neu a oedd yn deilliaw yn ogystal oddiwrth y Mab? Ac ar y gofyniad