Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bachgen sydd yn gwrandaw ar lais ei dad, neu y gwas sydd yn ufuddhau i orchymyn ei feistr, yn perthyn i rywogaeth is o greaduriaid na'r tad neu y meistr. Yn gyffelyb gyda golwg ar hyn, y mae yr Ysbryd Glân, er mai y Trydydd Person ydyw, ac er ei fod yn cael ei anfon gan y ddau ereill, nid yn unig yn uwch na phob creadur, ond y mae mor uchel a Duw—mor fawr ag ydyw y Tad, mor ogoneddus ag ydyw y Mab.

Defnyddir gyda golwg ar y Personau Dwyfol rai ymadroddion ag sydd yn dra annealladwy i ni. Addefwn eu bod y rhai goreu; ond gwesgir ni yr un pryd i gydnabod ein bod ymhell iawn o allu amgyffred eu cynnwys. Meddylier am genhedliad y Mab, a deilliad yr Ysbryd: pa beth a olygant? Geiriau daearol ydynt, rhai wedi cael eu benthyca oddiwrth amgylchiadau daearol i osod allan weithrediadau ysbrydol a dwyfol; ac nid ysbrydol a dwyfol yn unig, ond y rhai mwyaf ysbrydol a dwyfol—gweithrediadau mwyaf mewnol yr Hanfod Ddwyfol ei hun. Yr ydym yn eu defnyddio yn fynych gyda chymaint o ryddid ac o ddawn a phe byddem yn gwybod llawer, os nad y cwbl, am danynt; ond teimlwn, pan ofynir yn ffurfiol pa beth yn fanwl yw perthynas y Mab â'r Tad, neu berthynas yr Ysbryd Glân â'r Mab ac â'r Tad, eu bod yn ofyniadau anatebadwy. Y maent yn eigion o gwestiynau nad allwn ni ar hyn o bryd, ac nad allwn, y mae yn debyg, yn nhragwyddoldeb, gyrraedd eu gwaelodion. Yr ydym er hyny yn eu credu yn credu yr hyn nad ydym yn ei amgyffred; ac nid ydym yn diraddio ein hunain drwy hynny; oblegid credu, yn hytrach nag amgyffred, yr ydym gyda phob peth. Ychydig iawn—llai o lawer nag a dybiwn yn aml—ydym yn ei ddeall. Cyfyng yw ein dirnadaeth o honom ein hunain, chwaithach o Dduw. Leied, er esiampl, a wyddom am darddiad ein heneidiau! Ond ni thueddir ni i wadu eu bodolaeth, oblegid nad yw eu hanes yn hysbys i ni. Pa faint a ddeallwn am natur yr undeb sydd rhwng corff ac ysbryd yn ein cyfansoddiad? Ychydig iawn; ond yr ydym yn addef yr undeb, er ei fod yn anchwiliadwy i ni. Ac os nad allwn amgyffred ein hunain, nis gallwn yn sicr amgyffred y Drindod. Trwy gredu, yn hytrach na dirnad,