yr ydym yn byw yn byw yn anianyddol ac yn foesol, yn dymhorol ac yn ysbrydol. Ac os credwn rywbeth am ei fod yn rhy fawr i ni ei ddeall, cenhedliad y Mab a deilliad yr Ysbryd Glan yn fwy.
Onid ydyw pob peth—y greadigaeth a phob creadur —yn deilliaw oddiwrth Dduw? Mewn golygiad mwy arwynebol a phenagored, y maent; ac oherwydd hynny, y maent yn yr ystyr hwnnw i gyd yn Ddwyfol. "Deilliaw oddiwrth y Tad" y mae yr Ysbryd Glân, ac y mae oblegid hynny yn Ddwyfol; ond y mae er hynny wahaniaeth, a gwahaniaeth annherfynol, rhyngddo Ef â byd neu haul. Mae y ddaear yn Ddwyfol oherwydd mai Duw ydyw ei Hawdwr: ond camsyniad fyddai tybied mai y Tad a wnaeth yr Ysbryd Glân, neu mai drwy y Mab y crewyd Ef. Y mae Efe uwchlaw creadigaeth; y mae o angenrheidrwydd natur yn Ddwyfol. Yr oedd Efe yn bod cyn bod amser; yr oedd Efe yn bob peth ag ydyw yn awr, o dragwyddoldeb. Cawn felly fod llawer o bethau yn deilliaw oddiwrth Dduw, ac fod y cyfryw yn Ddwyfol, ond nad ydyw y cyfan yn ogyfuwch. Gwelwn adlewyrchiad gwanaidd o hyn yn amgylchiadau dynion. Byddai yn eithaf priodol dyweyd fod y peiriant a lunia, neu y llyfr a gyfansodda un ohonynt, yn deilliaw oddiwrtho, ac fod y peiriant neu y llyfr oblegid hynny yn ddynol. Ond y mae y plentyn yn deilliaw oddiwrth ei rieni, ac y mae yntau mewn canlyniad yn ddynol. Gymaint er hynny o wahaniaeth sydd rhwng arwyddocâd y gair dynol pan gymhwysir ef at y naill, a phan gymhwysir ef at y llall! Ni byddai yn gyfreithlon ei ddefnyddio gyda llai o ystyr nag a fedd yn ei gysylltiad ag offeryn; ac nis gall drosglwyddo mwy o ystyr nag a wna yn ei gysylltiad â baban. Gwelir i fesur drwy y peiriant fedr a chwaeth, amcanion ac amgylchiadau ei awdwr. Ond y mae y plentyn yn derbyn rhywogaeth ei rïeni, y mae yn ddyn, ac yn ddyn mor wirioneddol ag ydyw ei dad. Yn gyffelyb gyda golwg ar y pwnc sydd o dan ystyriaeth, fe geir drwy y greadigaeth adlewyrchiad o allu, doethineb, a daioni y Creawdwr; ond y mae yr Ysbryd Glân yn cyfranogi o sylwedd a bywyd, o natur a phriodoliaethau