rhywfaint o hwnnw mewn creaduriaid nad ydynt yn bersonau, megis anifeiliaid ac adar (Esaiah i. 3, Jeremiah viii. 7). Nid ydyw ymwybyddiaeth yn ddim llai na gallu mewn un i adnabod ei hun, i ddadansoddi ei deimladau, i brofi ei amcanion, ac i eistedd mewn barn ar ansawdd ei galon ac ysbryd ei feddwl ei hun. Nid oes unrhyw arwyddion o hynny mewn anifail.
Credwn fod yr Ysbryd Glân yn feddianol ar y pethau hyn—hanfodiad gwahaniaethol, gwybodaeth annherfynol, ewyllys anffaeledig, ac ymwybyddiaeth berffaith; ac os felly, rhaid ei fod yn Berson, ac yn Berson Dwyfol. Arweinir ni wrth gredu hyn i wadu golygiad arall a fu yn cael mesur o dderbyniad o berthynas iddo, sef mai gallu, neu ddylanwad, neu briodoledd Ddwyfol ydyw. Ac yr ydym yn derbyn y naill ac yn gwrthod y llall, oblegid fod y Beibl yn ein dysgu i wneuthur felly. Gwna hynny drwyddo; a gwna hynny gydag eglurdeb ag sydd i feddyliau agored i argyhoeddiad, yn anwrthwynebol. Cydnabyddwn fod y gair Ysbryd yn golygu weithiau yn yr Ysgrythyrau ddoniau, neu weithrediadau y Person; a defnyddir yn y cysylltiadau hynny ymadroddion gyda golwg arno ag ydynt yn anghyson â phersonoliaeth. Sonir, er esiampl, an: dano yn cael ei dywallt, ei ddiffodd; a gwnaeth cyfeiliornwyr ddefnydd mawr o eiriau fel hyn yn eu hymdrechion yn erbyn y gwirionedd. Credwn, yr un pryd, y gwel pob dyn diragfarn mai eithriadau yw y cyfryw ymadroddion, a bod rhediad cyffredinol y Beibl yn profi peth arall. Dengys drwyddo—drwy eiriau a brawddegau, drwy ffeithiau ac athrawiaethau—fod yr Ysbryd Glân yn Berson. Gesyd Ef allan fel dysgawdwr, arweinydd, sancteiddydd, a diddanydd credinwyr; ac ni ddichon unrhyw nerth, nac egwyddor, na dim ond person weinyddu y swyddau hyn. Cawn, ar y naill law, fod yn ddyledswydd arnom ei garu: ond nis gallwn garu gallu; gallwn ei werthfawrogi, ond nis gallwn ei addoli. Awgrymir, ar y llaw arall, fod yn bosibl i ni dristau yr Ysbryd Glân; ond nis gallwn dristau dylanwad, mwy nag y gallwn ddilladu dylanwad. Gall dynion hefyd bechu yn ei erbyn; ac o bob pechod, y pechod yn ei erbyn Ef ydyw yr un mwyaf arswydus. Gallesid maddeu i lofruddion y