oddiar ei bersonoliaeth,—megis gwybodaeth berffaith a doethineb anffaeledig. Medd adnabyddiaeth drwyadl o bob peth—o Dduw ac o ddyn (Rhuf. viii. 26, 27; 1 Cor. ii. 10—12); o ddaioni a golud y naill, ac o ddrygioni a thlodi y llall; ac y mae ganddo synwyr diderfyn i gymhwyso bendithion Dwyfol at anghenion dynol. Amlygir egwyddorion ereill trwy ei enw—Ysbryd Glân. Arweinir ni trwy y gair cyntaf at ei natur neu ei sylwedd ysbryd ydyw; a chyfeiria yr ail mewn rhan at ei waith—glanhau yw hwnnw, ac mewn rhan ato Ef ei hun. Rhaid fod yr Hwn sydd wrth ei swydd yn glanhau, yn anfeidrol lân ei Hun. Ymhellach, gan ei fod yn berffaith bur, y mae yn rhaid ei fod yn berffaith dda; ac y mae y ffaith ei fod yn sancteiddio, yn profi ei fod yn llawn o dosturi. Gwelir, gan hynny, fod y Trydydd Person, er y sonir mwy am y ddau ereill yn y cyfeiriad hwn, yn cyfranogi yn gystal â hwythau o gymwynasgarwch yr Hanfod Ddwyfol. Cawn, o ganlyniad, yn y cysylltiad hwn, dair o egwyddorion ei gymeriad gogoneddus: ysbrydolrwydd, sancteiddrwydd, a chariad (Rhuf. xv. 30; Phil. ii. 1). Pa beth nad allwn ei ddisgwyl oddiwrtho! Elfennau ereill yn ei nodweddiad ydynt ostyngeiddrwydd, amynedd, a phenderfyniad. Prin y buasem yn meddwl am ddefnyddio y fath ymadrodd â gostyngeiddrwydd Dwyfol, oni buasai fod yr Iesu wedi dyweyd ei fod EF yn ostyngedig o galon. Gallwn yng nghysgod y geiriau hyn fyned ymhellach, a dal fod yr Ysbryd Glân, pe buasai yn briodol cymharu ansawdd meddwl un Person Dwyfol ag eiddo Person Dwyfol arall, yn fwy gostyngedig na Christ. Oblegid nid ydyw Ef yn ymwasgu ar ystyriaethau dynion, nac yn galw eu sylw o gwbl ato ei Hun. Yn hytrach, lleshau pechaduriaid a gogoneddu y Gwaredwr ydyw ei amcan mawr Ef. Pan ymsymuda yng nghyflawnder ei nerth trwy genedl, nid am dano Ef yn unig, nac yn bennaf, y meddylia pobl. Wrth iddo agoryd eu llygaid a gwasgaru goleuni oddiamgylch iddynt, nid Efe, yn gymaint a Christ, a hwy eu hunain, a welant ac a deimlant. Yn lle cymdeith—asu ag Ef, fel Anwylyd eu heneidiau, ei anadlu wnant, fel awyr fywiocäol. Pwy a ddichon synied yn deilwng am y fath ostyngeiddrwydd! Nis gall yr un angel ddirnad yr
Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/52
Gwedd