Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunanymwadiad grasol a ddengys Efe! Mor lwyr, drwy ei gariad annherfynol, y mae yn byw er mwyn ereill ! Meddylier hefyd am amynedd, amynedd ddiderfyn yr Ysbryd Glân. Dyma un o briodoliaethau mwyaf gogoneddus yr Hanfod Ddwyfol. Ac i bechadur—sydd trwy ei amddifadrwydd neu ei brinder o honi, yn cyhoeddi gwendid, dirywiad, a dyryswch meddyliol a moesol ei natur—y mae yn dra hyfryd myfyrio am dani. Creadur amser ydyw ef, ac y mae yn llawn o bryder a phrysurdeb. Preswylia Duw dragwyddoldeb, ac y mae yn dwyn ei oruchwyliaethau ymlaen gyda phwyll, effeithioldeb, ac urddas anfeidrol. Gwelir hynny mor amlwg yng ngwaith yr Ysbryd ag mewn unrhyw gyfeiriad. Er i ddynion, drwy eu pechodau ei dristau yn fynych oddiwrthynt, Efe a ddychwel atynt drachefn a thrachefn. Gyda chymaint o ddyfalwch a thynerwch y mae yn ymresymu â hwynt—yn ymdrechu eu hargyhoeddi, a dysgu eu heneidiau i gashau a chilio oddiwrth ddrygioni, ac i garu a gwasanaethu Crist! Medda ddigon o ffyddlondeb i ymryson am flynyddoedd â nwydau a gwyniau. Pa beth yng nghanol tywyllwch, ynfydrwydd, a phechod y galon ddynol, ydyw ei brofiad, neu hanes ei feddwl, wrth iddo geisio troi eu huffern yn nefoedd! Crybwyllwn un elfen arall yn ei gymeriad penderfyniad. Yng nghanol anwadalwch, llygredigaeth, a thwyll, a llid gelynion aneirif, ni ddiffygia ac ni flina Efe. Fel y mae yr awyr weithiau yn chwäon balmaidd, a phryd arall yn gorwyntoedd digon cryfion i ddiwreiddio cedrwydd; neu fel ar y diwrnod mwyaf hafaidd, y mae eigion anfesurol y tu ol i fân donnau y traeth; felly o dan holl ostyngeiddrwydd ac addfwynder yr Ysbryd Glân y mae nerth annherfynol. Gall osod ei wyneb fel callestr, yn gystal ag ymwisgo mewn tiriondeb. Gall lefaru mewn taranau a mellt, yn gystal a chanu cân beraidd cariad. A myn, drwy foddion llym neu dyner, ddwyn ei amcanion i ben. Gymaint o ddefnyddiau diddanwch i alarwyr Seion sydd yn ei gymeriad gogoneddus!

IV. GWAITH YR YSBRYD GLAN.

Dysgir ni (1) mai Efe yn uniongyrchol a ddygodd y