Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

greadigaeth i fod. Gorchwyl arbennig y Tad oedd dwyn i fod o ddim; ond yn a thrwy y Personau ereill yr oedd Ef yn gweithio. Mewn bwriad a chynllun y creai Efe. Yr Ysbryd drawsffurfiodd y bwriadau yn fydoedd ac yn heuliau, ac a droes y cynlluniau yn greaduriaid ac yn oruchwyliaethau. Y Cyntaf oedd yn meddwl ac yn ordeinio pob peth; y Trydydd oedd yn cyflawni ac yn addurno y cyfan (Job xxvi. 13, Salm xxxiii. 6). Yr Ysbryd Glan (2) ydyw y gweithredydd mawr mewn Rhagluniaeth a Hanesyddiaeth. Efe sydd yn cyfeirio ac yn effeithioli yr arfaethau tragwyddol, ac yn dwyn oddiamgylch yr amcanion Dwyfol ym mhob oes a gwlad. Trwyddo Ef yr adnewyddir bob blwyddyn fywyd a phrydferthwch anian (Salm civ. 30). Efe sydd yn cyfodi cenhedloedd ac yn darostwng teyrnasoedd. Efe sydd yn cyfrannu athrylith, yn deffro meddyliau, yn trefnu manteision, ac yn bendithio ymdrechion dynion dros wyneb y ddaear. Ymweithia yn ddylanwad pureiddiol trwy Hanesyddiaeth; ac effaith ei weithrediadau cyffredinol Ef ydyw moesoldeb dynolryw. Efe (3) a ddatguddiodd bob gwirionedd a feddant,—holl ffeithiau ac awgrymiadau y greadigaeth, holl dystiolaethau ac addysgiadau Rhagluniaeth, holl feddylddrychau greddfol ac angenrheidiol yr enaid; oddiwrtho Ef y deillia y cyfan. Efe a gynhyrfodd ac a gyfarwyddodd ddynion sanctaidd i drosglwyddo i ni gyfrinach meddwl a chalon Duw yn y Beibl. Oddiwrtho Ef y tardd pob goleuni mawr ar y gwirionedd, a phob cynorthwy arbennig i ddeall a derbyn y gwirionedd. Efe yw gwir athraw dyn. Efe (4) a luniodd ddynoliaeth y Gwaredwr; ac Efe oedd yr eneiniad difesur a dderbyniodd Ef at ei waith. Efe (5) sydd yn cymhwyso yr iachawdwriaeth; a medd ddigon o ddoethineb a dylanwad i sicrhau cyflawniad ei holl amcanion. Efe sydd yn argyhoeddi ac yn dysgu pechaduriaid i edifarhau a chredu. Trwyddo Ef yr unir hwy â Christ, yr ailenir ac y sancteiddir hwy. Megis mai Efe a ddygodd dryblith y greadigaeth i drefn, Efe hefyd sydd yn troi tryblith moesol y ddyniolaeth yn baradwys. Efe (6) yr un modd sydd yn achosi bywyd a chariad, doethineb a gweithgarwch yr Eglwys. Efe oedd gynt yn donio ac yn galw Proffwydi ac Apostolion; ac Efe sydd yn awr yn