gallu o gwbl gario amgylchiadau y byd ymlaen. Ond y mai rhai hen elfenau yn aros, ac y maent mor angenrheidiol i ni ag oeddynt iddynt hwy. Galluogir dynion i wneyd pethau yn yr oes hon a ystyriasid unwaith yn wyrthiau; ond nid ydynt eto wedi dysgu gweithio heb ymborth, na byw heb awyr. Yr un modd yn ysbrydol, tra y mae cynnydd golud, rhyddid, a dysgeidiaeth, wedi dwyn o gwmpas welliantau pwysig yn nhrefniadau ac amgylchiadau allanol Crefydd, y mae hi ei hun yn aros yr un—mor ddibynol ar Dduw ag erioed. Y mae yr hyn a nodwyd wedi llïosogi cyfleusderau a manteision credinwyr yn ddirfawr; ond y mae awyr ysbrydol mor hanfodol i ni ag oedd i saint unrhyw gyfnod yn hanes yr Eglwys. Yr ydym, yn y mwynhad o ddiwylliant uwch ac o gynlluniau perffeithiach, mor amddifad o allu i gynnyddu mewn sancteiddrwydd ein hunain ac i ddarostwng llygredigaeth ein hoes, yn annibynol ar ras a goleuni Dwyfol, ag oedd ein henafiaid boreuaf. Dichon, yr un pryd, nad oes yr un gwirionedd ag yr ydym, yn bregethwyr, blaenoriaid ac athrawon, yn fwy agored i'w anghofio na hwn—ein hangen beunyddiol am Ysbryd yr Arglwydd.
Cymer y testyn yn ganiataol fod llygredigaeth yn cynnyddu yn yr oes hon: a ydyw hynny yn ffaith? Rhaid i mi, mewn trefn i allu ateb y gofyniad hwn, ofyn un arall—Pa beth a feddylir wrth lygredigaeth? Ei ystyr gyffredin ydyw annuwioldeb budr a gwrthun—pechodau cnawdol, anifeilaidd, a bwystfilaidd. A ydyw y rhai hyny yn llïosogi—yn llïosogi i ganlyn amlhad manteision a breintiau? Dysgir ni "y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf." Bydd i gamwedd ymgryfhau yn ddirfawr, bydd i bechod ymbersonoli mewn dynion o athrylith a dysg, a bydd i Satan ymgnawdoli mewn gwŷr o allu ac awdurdod. Ond prin y gall deongliad gofalus a chywir o dueddiadau ac arwyddion yr oes hon ein harwain i gredu fod hen ysgelerderau y ddaear yn adgyfodi ynddi. Meddylier am yr ysbrydiaeth ag oedd yn uno nerth, gelyniaeth, a chreulondeb—y trindod arswydus hyny, ac yn eu cymhell i orthrymu, i adeiladu carcharau, i gloddio daear-gelloedd, ac i ennyn rhyfeloedd ac erledigaethau—nid hono ydyw ysbrydoliaeth lywodraethol y