llawer o fwynhad ac o ddadblygiad anianyddol. Barnaf, er hynny, ein bod yn chwareu gormod. Yr ydym yn cellwair yn fynych pan y dylem weddïo, ac yn chwerthin yn aml pryd y byddai yn fwy gweddus i ni wylo. Pa beth—yn ngwyneb cyfyngder masnachol a marweidd-dra crefyddol, ydym yn ei wneuthur—ai nid dawnsio? O na roddid i ieuenctyd ein gwlad ddoethineb wyn a mynod! Troant, drwy ymroddiad gormodol iddynt, gampau ag sydd ynddynt eu hunain yn ddiniwed ac iachus, yn niweidiol a diraddiol. Chwareu ei hun yn farch, ac nid yn llew nac yn arth, y mae yr ebol; ond y mae ambell i lanc yn chwareu ei hun yn anifail, os nad yn fwystfil. Priodol fyddai i fawrygwyr yr ymarferiadau corfforol hyn. ystyried, fod parch i Ddydd yr Arglwydd wedi dal, drwy holl ymladdfeydd a meddwdod ac anlladrwydd Cymru, i gynnyddu am gant a hanner o flynyddoedd—ac mai dirywiad yn sancteiddiad y Sabboth ydyw un o nodweddion oes y chwareuon hyn. Y ffaith ydyw, gan nad beth yw eu dylanwad o fewn terfynau cyfyng, eu bod, drwy feddiannu pobl fel y gwnant yn bresennol, yn parlysu teimladau crefyddol a phob pryder ynghylch tra—gwyddoldeb yn eu calonau. Onid yw ein llanciau yn chwareu Duw ymaith oddiwrth eu heneidiau!
Oni ddichon llygredigaeth olygu rhywbeth arall—rhywbeth llai anianyddol a gwrthun—mwy anianol ac ysgeler, llai colledus ac aflan—mwy hunanol ac anuwiol, llai cnawdol a gwarthus—mwy peryglus a dieflig, na hyn? Cynnwysa, fel yr ymddengys i mi, dueddiadau ac amcanion drygionus, a phechodau fel twyll, balchder, cybydd-dod. A chredaf fod y rhai hyn yn cynnyddu, yn hytrach na lleihau, yn ein plith. Yr ydym yn sicr yn byw mewn "amseroedd enbyd." Anadlwn awyr wenwynig. Dichon na bu yr Anghrist erioed yn gweithio yn fwy egniol, ac mewn dull mwy deniadol, nag yn bresennol. Amgylchynir ni gan ysbrydion cyfrwys a galluog, y rhai a wenwynant fywyd cymdeithas. Y mae gau brophwydi lawer yn myned allan yn y dyddiau hyn; a meddant eisoes gynddrychiolwyr yn ysgolion ac eglwysi ein hoes. Nid oes hyd yn hyn yn ein mysg ni, fel y mae ymysg rhai cenhedloedd, wŷr o athrylith a dysg yn cyfansoddi llyfrau, yn y rhai y