Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae gwirioneddau byw a heresiau dinystriol yn cael eu cydblethu yn ofalus, ac yn cael eu gosod allan drwy syniadau mor ddyrchafedig a chymhariaethau mor brydferth, nes y mae pobl yn eu darllen gydag awch rhyfeddol; ond y mae coethder anianol a diwylliad annuwiol yn ymledu yn gyflym drwy gymoedd a phentrefydd ein gwlad. Nid ydym ni yn cynnyg yn fynych i bechaduriaid Fara y bywyd wedi cael ei drochi mewn gwenwyn melus; ond y mae "ysbryd y cyfeiliorni" yn ymdaith yn llechwraidd drwy ein broydd yn y blynyddoedd hyn. Ni feddwn eto wyddoniaeth ddigon hyf i gymeryd oddiar Dduw reolaeth ei greadigaeth, na beirniadaeth ddigon dysgedig i ddinystrio y Beibl; ond yr ydym yn dechreu tosturio wrth boblach ddiniwed ag ydynt yn dal i gredu rhai hen athrawiaethau cysegredig. Onid ydym yn byw mewn "amseroedd enbyd?" Priodol fyddai i ni, yn gyson â greddfau goreu Athroniaeth, yr hon sydd mor wrthwynebol i anghrediniaeth ystyfnig ag ydyw i hygoeledd gwancus, brofi ysbrydion ein hoes. Gadawer i ni wrth fwrw ymaith ragfarnau a golygiadau cyfyng ein tadau, barchu y gwirioneddau a ddysgent. Na chladder eu duwinyddiaeth cyn iddi farw.

Os ydyw y sylwadau blaenorol yn gywir, ni ddylid rhyfeddu llawer at y cynydd a wna hyfdra yn ein plith. Dichon na fu erioed yn ein gwlad fwy o wrthwynebiad i bob math o awdurdod nag sydd yn bresennol. Wrth i urddas ac iawnderau personol gael eu pregethu mor fynych yn nghlywedigaeth pobl, tyn llïaws o honynt y casgliad fod pob dyn yr un faint. Wrth gael eu bod i gyd yn gydbwys yn yr etholiad gwladol a chrefyddol, llithrant i gredu eu bod felly ymhob man. Y canlyniad o hyn ydyw, fod rhyddid yn ymddirywio yn aml i benrhyddid, a bod syniadau gwerinol yn ymweithio mewn byd ac eglwys yn nghyfeiriad aflywodraeth. Collwn bob gwylder a pharchedigaeth. Daw ynfydion yn anffaeledig. Dyrchafant eu cyrn, dywedant yn warsyth, a merwinant glustiau llednais y tir à llwon a rhegfeydd. Yn gyffelyb gyda golwg ar fydolrwydd yn ei wahanol ffurfiau; gwesgir fi i feddwl fod awydd am gyfoeth yn cryfhau yn ddirfawr yn ein plith. Yr ydym, gan nad beth am bechodau cnawdol, yn cynyddu