Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn huanoldeb a balchder—mewn gwychder allanol a hunan-addoliad mewnol. Daw enill swyddau daearol a safleoedd cymdeithasol yn amcan uchaf bywyd. Yn ol grym y gwyniau hyn, y mae ein hymdrechion am eu gwrthrychau yn llïosogi ac yn angerddoli; ac yr ydym, yn gyfatebol i hyny, yn myned o hyd yn fwy agored i ddefnyddio moddion diraddiol wrth geisio cyrhaedd ein hamcanion. Edrychir ar dwyll manteisiol a chelwydd llwyddianus fel defodau cyfreithlawn. Ystyr ymadrodd prydferth fel ffyddlondeb i gyfeillion, erbyn hyn, ydyw ymwerthiad, ar draws gwirionedd a chyfiawnder, i wasanaeth plaid. Y mae gweniaeth ddeheuig yn myned o hyd yn fwy anrhydeddus. Daw athrod, o dan yr enw o feirniadaeth, yn un o ddyledswyddau cyffredin bywyd. Onid ydyw crefydd ei hun yn cael ei defnyddio i hyrwyddo dyrchafiad personol a buddianau teuluaidd? Dengys y Beibl mai yn y dyfodol y mae y diluw o lygredigaeth; ond y mae meibion Duw yn priodi merched dynion yn awr.

Nodweddir llawer o ddrygioni yr oes hon gan ryw fath o barchusrwydd. Nid ydyw yn diraddio nac yn dinystrio pobl yn ebrwydd. Nid yw cymdeithas anianol yn myned wrth ei gyflawni, yn ddirmygedig yn ei golwg ei hun. Gwna yr un haul i fwystfilod geirwon a rheibus encilio oddiwrth ein haneddau, ac i nadroedd prydferth a gwenwynig chwareu ar ein llwybrau. Ac ymddengys i mi fod hen bechodau budron ein cenedl yn diflanu yn raddol o dan ddylanwad addysg a diwylliad, a bod eu lleoedd yn cael eu meddianu gan rai mwy cymhenllyd ac ysgeler. Ni fyddai yn rhyfedd i ni ddyfod yn fuan, drwy ein manteision presennol, yn rhy wybodus i fod yn lwth, yn rhy gall i feddwi yn aml, ac yn rhy chwaethus i odinebu llawer; gallwn fod mor dwyllodrus, beilchion, a chybyddlyd, ag y mynwn. Dygir y dyn sydd yn troseddu drwy gyfrwng ei gorff yn ddiatreg i waradwydd a chosb; gall enaid, wedi cael ychydig o ymarferiad, wrthryfela yn hir cyn cael ei hun mewn blinderau. Y mae cnawd wrth ymhalogi yn egnïol, yn tori i lawr cyn myned yn hen: deil ysbryd i ymlygru yn dragwyddol. Pechai ein henafiaid lawer yn erbyn dynion a deddfau gwladol; ond y mae