hyny wedi dyfod erbyn hyn yn beth peryglus a gwarthus. Yn erbyn y ddeddf foesol ac yn erbyn Duw, yn hytrach, y pechwn ni; ac yr ydym, yn y fuchedd bresennol, yn ddyogel ac anrhydeddus, Ymgiliwn oddiwrth bechodau (Rhuf. i.) paganaidd a diraddiol, ac ymroddwn i gyflawni drygau (2 Tim. iii. 1—5) llednais a Christionogol. Nid ydyw y rhai diweddaf yn tybied ymadawiad â'r Eglwys; oblegid gallwn, er bod yn euog o honynt, feddu "rhith duwioldeb:" golygant yn unig ymadawiad â Duw o fewn yr Eglwys. Ni chadwant bobl o gymundeb crefyddol—cauant hwynt allan o'r Nef. Nid ydynt yn eu gyru i garcharau a gwallgofdai—gyrant hwynt i uffern.
Pa beth a feddwn ar gyfer y sefyllfa hon ar bethau? Pa fodd y gallwn ddal a gwrthweithio llygredigaeth yn y gwahanol agweddau hyn? Diau fod yn natur dyn, yn arbenig mewn gwlad ac oes fel hon, rywfaint, er pobpeth, o ddaioni a goleuni—lawer o syniadau cywir, o dueddiadau rhinweddol, ac o ddymuniadau dyrchafedig. Ym—draidd gwirioneddau dwyfol drwy gof a meddwl, drwy ymadroddion a gweithredoedd, trigolion Cymru. Y fath sefydliad bendigedig yw y Sabboth! Gwasgara ordinhadau yr Efengyl yn ddibaid ddylanwadau grasol a phureiddiol drwy ein cenedl. Ymweithia miliynau o nwyon nefol drwy awyr y ddaear. Ni ddylem, o ganlyniad, ddigaloni. Dichon fod y byd ysbrydol yn nes atom nag yr ydym yn aml yn synied. Addefwn fodolaeth angelion; ond i raddau bychain y sylweddolwn eu bod yn rhodio yn ein mysg ac yn gweini arnom. Yr ydym yn ymarferol yn eu cau i fyny yn y Nef. Os rhydd Pabyddiaeth ormod, oni rydd Protestaniaeth rhy fychan o le iddynt? Ac yr ydym ni yn rhoddi llai o lawer o le iddynt nag a roddid gan ein henafiaid. Prin y lletywn ni angelion yn ein credo chwaithach yn ein tai. A fyddai yn afresymol i ni gredu ein bod yn cael ein cylchynu yn wastadol gan greaduriaid ysbrydol—doeth, caredig, a galluog; ac fod y cyfryw yn ein cynorthwyo yn ddistaw mewn mil o ffyrdd? Os na fyddai, ni ddylem anobeithio am wellhad y byd. Na fydded i ni ildio i genadon uffern hyd nes y deallwn fod preswylwyr y Nef wedi ein gadael. Gall y pethau hyn wneuthur llawer—llawer iawn ar un ammod—drwy