Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un Ysbryd mawr a dwyfol. Gan nad faint o werth a berthyn iddynt, ymddibyna yn hollol ar ei bresenoldeb Ef.

1. Gwelir yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân i wrthweithio cynnydd llygredigaeth, wrth ystyried mai Efe ydyw Ysbryd y gwirionedd yn y datguddiad ac yn yr eglurhad o hono. Trwyddo Ef y trosglwyddwyd y gwirionedd i ddynion, ac Efe sydd ymhob oes yn eu tywys i ddirnadaeth o hono. Felly yn arbenig gyda golwg ar hyn—Efe sydd yn dynoethi drygioni ac yn argyhoeddi y byd o bechod. Yn ei oleuni Ef y canfyddwn ni ysgelerder llygredigaeth. Gall rheswm anianol ddeall yr anianol. Gall hefyd synied am rai o ganlyniadau annuwioldeb—tylodi, gwarth, gwallgofrwydd, gwae; ond nis gall ei adnabod ef ei hun. Nis gall ei ddirnad yn ei arwyddocâd dyfnaf, ac yn ei wrthwynebiad eithaf i Dduw, mwy nag y gall dyn arogli drwy ei glustiau neu glywed drwy ei ffroenau; oblegid yn ysbrydol y bernir y cyfryw bethau. Ysbryd yn unig a ddichon weled a dangos ysbryd. Ysbryd yw diafol, ac ysbrydiaeth yw drygioni; ac mewn goleuni ysbrydol yn unig y gallwn ni eu hadnabod. Y mae y meddwl, yn ol cynnydd ei berchenog mewn llygredigaeth, yn ymdywyllu o hyd; ac un canlyniad o hynny ydyw, fod pechod yn myned yn barhaus yn fwy diniwed yn ei olwg. Dwg yr Ysbryd Glân oddiamgylch gyfnewidiad trwyadl yn natur dyn. Goleua ei feddwl yn y fath fodd nes yr ymddengys pethau iddo mewn lliwiau hollol newyddion. Cawn fod yr hwn sydd ysbrydol yn barnu, neu yn adnabod, pob peth. Daw yn ol ei gynnydd mewn ysbrydolrwydd i weled drygioni yn wastadol yn fwy ysgeler. Yn y cyfeiriad hwn y gorwedd yr eglurhad ar waith duwiolion yn dal i achwyn arnynt eu hunain. Wrth iddynt dyfu mewn purdeb, cryfha llygaid eu meddyliau; ac ymddengys eu pechadurusrwydd ag sydd mewn gwirionedd yn lleihau, iddynt drwy hynny, yn fynych, fel pe byddai yn cynnyddu. Ysbryd yr Arglwydd yn unig all oleuo enaid a dynoethi llygredigaeth yn effeithiol. Ac y mae yn ein gwlad rai pechodau a ddiflanant wrth deimlo eu bod yn cael eu hadnabod, fel y mae lladron yn dianc wrth ddeall eu bod yn cael eu gwylied. Prin y gall ysbrydion mewn cyrff