Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brofi y digofaint iachus a sefydlog hwnw at bechod a wna ei ddarostwng yn un o amcanion penaf ein hoes.

Efe yn unig a ddichon ddeffro y gydwybod a phuro yr ewyllys drwyddynt; ac y mae wrth wneuthur hynny yn rhoddi cyfeiriad priodol i holl yni, ac yn marweiddio holl gnawdolrwydd a hunanoldeb ein natur. Arllwysa fywyd newydd i enaid hen; ac y mae drwy hynny yn cynnyrchu ynom y chwyldroad mwyaf y tu yma i greu ynom eneidiau newyddion. Gwna ddyn yn ddau—y naill yn gyfansoddedig o dywyllwch, halogrwydd, llid, gwae—y llall o oleuni, ffydd, cariad, sancteiddrwydd; ac y mae drwy borthi y diweddaf à Bara y bywyd yn ei alluogi i orchfygu y cyntaf yn gynt neu hwyrach. Trosglwydda egwyddorion dwyfol i galonau pechadurus; a thry drwy hynny rai o hen daleithiau uffern yn drefedigaethau nefol. Trwy gael fel hyn ein creu o newydd, daw tueddiadau llywodraethol a greddfau dyfnaf ein bod yn drwyadl groes i ddrygioni. Casawn ef, mewn canlyniad, â holl aidd, a gwrthwynebwn ef â holl rym, ein natur. Daw gogoneddu Duw drwy ddarostwng llygredigaeth, yn amcan uchaf ein bywyd. Gallai dynion grasol, yn gyson â hyn, wneyd llawer tuag at buro cymdeithas. Dylent wneuthur mwy na mwy yn Nghymru, lle y mae nifer y rhai sydd yn proffesu duwioldeb mor liosog. Gorchwyl hawdd fyddai iddynt drwy gydfyw a chydweithio allan egwyddorion Cristionogaeth, gywilyddio llïaws o lygredigaethau allan o honi.

3. Gwelir yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân tuagat i ni allu darostwng drygioni, wrth ystyried mai Efe yn unig a ddichon arwain a chyfarwyddo yn anffaeledig, ac mai Efe yn unig all attal dirywiad ac annuwioldeb yn effeithiol. Medd graffder anfeidrol i ragweled temtasiynau a pheryglon dyfodol, ac agweddau newyddion ar gyfeiliornad a phechod, a doethineb berffaith (Esa. xi. 2) i ragdrefnu y moddion mwyaf addas i ddwyn oddi—amgylch ddinystr y cyfan. Y mae yn parotoi credinwyr yn ddiarwybod iddynt eu hunain ar gyfer gwaith ac amgylchiadau arbenig eu hoes. Effaith ei bresenoldeb Ef yw cynlluniau doeth a gweithgarwch llwyddianus. Gall Ef rwystro i dueddiadau pechadurus ymffurfio yn