Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac awgrymiadau dyrchafedig awelon y Nef wrth iddynt ymsymud drwy goedwigoedd y ddaear. Meddylier yn ngoleuni y syniadau blaenorol am yr hyn a elwir yn Ddeffroad Cenedlaethol neu Gymru Fydd; credaf y buasai ymweliad newydd oddiwrth yr Ysbryd Glân yn arwain y Cyfundeb i ymdrechu yn fwy egnïol a doeth nag y gwnaeth hyd yma, i hyfforddi a chrefyddoli yr ymweithiad hwnw. Gallwn ofyn pa beth ydyw, ac at ba beth yr ymgyfeiria; ond nid ydyw yn hawdd ateb. Gan nad beth ydyw, a chan nad i ba le y mae yn myned, y mae yn rhaid i ni gydnabod ei hanfodiad; ac onid ydyw ei fodolaeth yn rheswm digonol dros i ni dalu sylw iddo? Gallwn fod yn sicr na bydd i waith ambell i ddyn, na fedd ddigon o feddwl i weled unrhyw ragoriaeth ynddo, na digon o galon i allu cydymdeimlo âg ef, na digon o yni i allu gobeithio ennill ei wobrwyon, yn chwerthin am ei ben, beri iddo ymgiliaw o fod. Ni hoffwn i hanesiaeth ailadrodd ei hun gyda golwg arno. Nid oes feallai achos i ryfeddu na buasai Methodistiaeth bur a llem blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf a hanner flaenaf hon, wedi canfod yn y cynulliadau chwibwrn a ymgyfarfyddent, weithiau mewn llysdy ac weithiau mewn tafarndy, annelwig ddefnydd yr Eisteddfod. Gweddus er hynny ydyw ym—ofidio oblegid na wnaeth—oblegid na welodd yn yr ymddeffroad anwadal, pensyfrdan, hanner llenyddol a hanner gwallgof hwnw, ag oedd ar unwaith yn sobr ac yn feddw, y bywyd sydd erbyn hyn wedi meddiannu y genedl. Canys y mae yr hen Sefydliad, mewn canlyniad, wedi ymledu ac ymgryfhau o dan ddirmyg a gwg y Cyfundeb. Pe buasai mwy o gyfathrach caruaidd wedi bod rhyngddynt, hwyrach y buasai pob un o honynt yn well heddyw—yr Eisteddfod yn fwy goleuedig a phur a Methodistiaeth yn fwy Cymreig a Chenedlaethol. A fydd a fu?

4. Gwelir angen yr Eglwys am yr Ysbryd Glân tuag at iddi allu darostwng llygredigaeth, wrth ystyried ei fod yn Ysbryd nerth. Hynny yn anad dim arall ydyw. Trosglwydda y gair yn gyntaf ac yn benaf y syniad o rym ac effeithioldeb. Nis gallwn fesur cryfder yr ysbryd lleiaf a gwanaf mewn bod. Trwy hynny o ysbryd sydd ynddo y gwna dyn ei holl bethau ardderchog. Llenwir ni yn