fynych â syndod hyfryd yn yr olwg ar ysbrydiaeth anifeilaidd yn gwneyd ac yn dal, yn cyflawni ac yn goddef. Math o ysbrydoliaeth feddyliol ydyw athrylith, ac y mae ei chynnyrchion hi ymhlith trysorau gwerthfawrocaf ein rhyw. Ysbrydoliaeth calon sanctaidd sydd, drwy wyliadwriaethau caruaidd ac ymdrechion cuddiedig, drwy ym—wadiad tawel ac ymaberthiad dystaw, wedi goleuo a gogoneddu rhywfaint ar hanes y ddaear. Ac os gall ysbryd bach, mwy neu lai llygredig, ac yn gweithredu drwy gyfrwng cnawd afiach, gyflawni gorchestion prydferth ac arddunol, beth nad allai ysbryd mawr a phur ei gyflawni! Cawn i angel ladd mewn un noson bump a phedwar ugain a chant o filoedd o Assyriaid. Ac os gallodd creadur mor lawn o gariad ddinystrio cynnifer mewn amser mor fyr, y fath nifer o gymwynasau allasai weinyddu, ac o fendithion allasai gludo i breswylwyr helbulus ein byd! Ond pa beth ydyw dyn neu gerub mewn cymhariaeth i Ysbryd Duw! Nid ydyw enaid yn ddim mwy wrtho Ef na chwa grwydredig wrth awyr annherfynol. Nid ydyw seraph yn ddim mwy wrtho na chwmwl llwyd yn ymyl môr di-lan a di-waelodion. Gallant hwy wneyd rhywbeth, a llawer o fewn terfynau cyfyng; ond nid oes unrhyw waith, o fewn unrhyw gylch, nad all Efe ei gyflawni.
Medd yr Ysbryd Glân allu diderfyn i ddinystrio yn gystal ag i adeiladu. Gallai ddarostwng drygioni a gwarthruddo aflendid, drwy achub y bobl sydd yn ddarostyngedig iddynt. Byddai yn hawdd iddo, wrth ymweithio drwy gymdeithas, sobri meddwon a phuro godinebwyr gwlad mewn mis. Nis gallai balchder cenedl a thwyll oes oddef ei ddylanwad mwy nag y gallai barug ddal pelydrau yr haul. Trwyddo Ef y galwyd y bydoedd i fod; Efe a droes y tryblith boreuol yn baradwys; ei anadl Ef yw bywyd y ddaear. A thra yr ydym ni, ynom ein hunain, yn ddiddym iawn, gallwn drwy gael ein defnyddio ganddo Ef gyflawni rhyfeddodau. Gallai ddinystrio pechadurusrwydd, ymhellach, drwy sancteiddio dynion achubedig. Byddai i fesur helaethach o lawer o hono nag a fwynhawn yn bresenol, wasgaru drwom oleuni digon cryf a thanbaid, i gywilyddio ac i ddeifio