Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bydolrwydd a hunanoldeb credinwyr i ffwrdd. Newynai genfigen yr Eglwys o fod. Cryfhai fywyd ysbrydol y genedl nes ei galluogi i fwrw annuwioldeb a llygredigaeth ymaith. O dan y fath amgylchiadau, gyda mwyafrif mawr trigolion ein gwlad yn dduwiol, ac yn cynnyddu yn gyflym mewn goleuni, cariad, a sancteiddrwydd, gwesgid y gweddill o honynt i fyw yn rhesymol a moesol. Gorfodid troseddwyr rhyfygus ac oferwyr halogedig i ymadael o gymdeithas wareiddiedig. Deuai pechodau gwarthus yn annyoddefol—yn annichonadwy o fewn ein gororau. Mor werthfawr fyddai ymweliad oddiwrth yr Eneiniad Dwyfol! Cariai rhieni drwy gynghorion, gweddïau ac esiamplau, ddylanwad achubol ar eu plant. Deuai yr Ysgol Sabbothol yn sefydliad mwy bendigedig nag y bu erioed. Dychwelai hen bregethu gogoneddus Cymru. Ymledai addysg ostyngedig a diwylliad grasol drwy y genedl. Cofiwn, os ydyw y gelyn yn dyfod i fewn fel afon, y gall Ysbryd yr Arglwydd ei ymlid ef ymaith (Esa. lix. 19). Ystyriwn, yn y meddiant o drefniadau rhagorol, fod yn rhaid i ni gael Ysbryd y peth byw yn yr olwynion (Ezec. i.). Pa fodd y gwrthweithiwn lygredig—aeth ein hoes? "Nid drwy lu, ac nid drwy nerth, ond drwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd." "O anadl, tyred oddiwrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw!" Gwel Ezec. xxxvii. 1-10. "Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; i'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol paradwys Duw."