neu lydan, rhwng y ddau gyfaill cywiraf mewn bod. Nis gall y naill weled pob ogof oer a thywyll, na phob mynydd uchel a heulog, sy neu fu yn mhrofiad y llall. Gall amgylchiadau allanol dau gymydog fod yr un, a bod hanes eu heneidiau yn yr amgylchiadau hyny, oblegid y gwahaniaeth anianyddol a moesol sydd rhyngddynt, yn gwbl amddifad o debygolrwydd. Ymddengys fod pob un o honom i ryw raddau yn ddyn unig ar y ddaear, a bod ei lwybr drwy y byd yn un disathr: "Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun; a'r dyeithr ni bydd gyfranog o'i llawenydd." Rhaid, gan hyny, fod hanesyddiaeth gyflawn a pherffaith yn beth annichonadwy.
Canlyniad arall (2) sydd yn tarddu oddiar neillduolion ein natur yw, fod yr un temtasiynau yn meddu mwy o ddylanwad ar rai dynion nag ar eraill. Gwyddom ein bod yn fwy agored i syrthio i rai pechodau nag eraill. Cyflawnir yr un dyledswyddau gan rai gyda rhwyddineb, a chan eraill gydag anhawsder. Er fod drygioni, ar un golygiad, yr un peth ymhawb, y mae ar olygiad arall yn amrywio ymhob un, ac yn amrywio ymhob un yn ol nodweddion gwreiddiol cyfansoddiad y cyfryw un. Cymer ei agweddau neillduol oddiwrth neillduolion y natur y trig ynddi. Nid ydym yn gollwng dros gof fod yr amgylchiadau y dygir pobl i fyny ynddynt yn effeithio ar ffurf eu hannuwioldeb; ond y mae dylanwadau dyfnach a boreuach yn bod—eu tueddiadau cynhenid ac arbenig hwy eu hunain. Onid oes ymhob dyn ogwydd greddfol, nid yn unig at bechod, ond at rhyw bechod neillduol? Os felly, cyfreithlawn yw casglu fod yr un drwg, neu yr un rhinwedd, yn fwy o ddrwg neu o rinwedd mewn rhai nag eraill. Os yw, priodol fyddai ystyried hynny i raddau helaethach nag y gwneir yn bresenol yn ein llysoedd gwladol ac eglwysig. Credwn fod geirwiredd a sobrwydd yn bethau mor naturiol a hawdd i rai dynion, fel mai prin y maent yn rhinweddau ynddynt; tra y maent, oblegid eu bod mor anhawdd iddynt, yn rhinweddau mawrion mewn eraill. Rhaid fod byd o ddrygioni yn y cybydd a luniwyd yn greadur rhyddfrydig a haelionus. Os ydyw y marsiandwr Ilwyddiannus a chyfoethog mor ostyngedig a gweithiwr helbulus, y mae y cyntaf yn well nag yw yr olaf. Byddai