amlygiad o greulondeb a dialedd mewn dyn ag oedd wrth natur yn dyner a charuaidd, yn dystiolaeth o ddirywiad a phechadurusrwydd mawr; a byddai arwyddion bychain o dosturi a chymwynasgarwch mewn rhywun a anwyd yn arth, yn brawf diammheuol o ras.
II. Defnyddir y gair moesol ar yr achlysur hwn mewn ystyr gyfyngach nag y gwneir weithiau, ac mewn ystyr ag sydd yn caniatau i ni ofyn, Ymha bethau y mae y dyn moesol yn gwahaniaethu oddiwrth y naturiol ac oddiwrth yr ysbrydol? Gallwn, cyn ymdrechu ateb, sylwi nad yw y gosodiad fod dyn yn greadur moesol yn cyfleu yn hollol yr un syniad, a bod dyn—rhywun neillduol yn ddyn moesol. Y gwirionedd a ddysgir drwy y cyntaf ydyw, fod y natur ddynol yn cynnwys neu yn meddu cynneddfau moesol: y ffaith a hysbysir drwy yr olaf yw, fod rhyw berson adnabyddus i ni yn byw dan lywodraeth egwyddorion moesol. Ond y mae rhagor yn y golygiad diweddaf rhwng moesol a moesol. Golygir wrtho weithiau ddyn yn cadw deddf ei wlad, ac yn ymddwyn yn gyson à rheolau y gymdeithas y perthyna iddi. Cyhyd ag y gwna hynny—ag yr ymddyga yn ol cyfreithiau y byd, bydd, gan nad pa mor fynych y trosedda gyfreithiau y Nef, yn ddyn moesol. Os yw yn dyfod i fyny â safon dynion, afreidiol yw ymofyn pa un a yw, ai nad yw, yn gymeradwy yn ngolwg Duw. Edrychir ar foesoldeb fel ymarweddiad didramgwydd, ac nid fel uniondeb calon; fel cydymffurfiad â gosodiadau daearol, ac nid fel ufudd-dod i orchymynion tragwyddol. Sylfaenir ymddiriedaeth a pharch ar yr allanol ac nid ar y mewnol. Gan nad beth ydyw ansawdd meddyliau, teimladau ac amcanion, unrhyw un, y mae, os yw ei weithredoedd yn gyfreithlawn a gweddaidd, uwchlaw beirniadaeth. Gall ei galon fod yn llawn o dwyll, cen figen, creulondeb, neu lygredigaeth; ond cyhyd ag na bo yn athrodwr neu orthrymwr, yn lleidr neu odinebwr, cyhoeddus, bydd yn gymeriad anrhydeddus. Os yw ei gorff yn ymagweddu yn briodol, nid yw o gwbl yn bwysig pa beth yw hanes ei enaid.
Adwaenom well dyn moesol na hwn; nid amgen, yr hwn sydd yn awyddus i wella ei hun yn fewnol ac yn allanol;