Derbyniwn y cyntaf ar unwaith yn ein creadigaeth; y mae y diweddaf yn ganlyniad oes o feddwl, o deimlo, a gweithredu. Tyfiant—dadblygiad drwy feithriniad gofalus oddiar y naill yw y llall. Cynnyrch y creadur, o gan—lyniad, yw moesoldeb. Y gwr rhinweddol ei hun sydd, drwy gynorthwy gwahanol ddysgawdwyr a defnyddiad priodol o ddylanwadau allanol, yn ffurfio ei hun. Home-made article yw y dyn moesol. Efe ei hun sydd o ddefnyddiau naturiol yn gwneyd ei hun.
Rhaid, gan hynny, nad oes ynddo ddim uwch nag ef ei hun—dim (Ioan iii. 6) ysbrydol a dwyfol. Gan ei fod o ran ei nodweddiad yn tarddu oddiar y dynol, rhaid ei fod yn cyfranogi o ddiffygion a llygredigaeth y dynol. Caiff, er hynny, yn yr olwg ar unrhyw hawddgarwch a ddichon berthyn iddo, orfoledd ynddo ei hun. Gall wrth fwynhau perarogl ei gymeriad ddywedyd, "I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwnaethum ef."
Os ydyw y sylwadau blaenorol yn gywir, gwelir fod ein dyn moesol ni yn arwyddocâu yr un nodweddiad a dyn anianol y Testament Newydd. Saif yr olaf am air a ffurfiodd Aristotle i osod allan bleserau y meddwl yn gyferbyniol i bleserau y corff. Eneidiol fyddai y cyfieithiad mwyaf llythyrenol o hono. Ymlithrodd yn fuan i gyfleu y syniad o ddyn yn byw dan lywodraeth yr enaid mewn cyferbyniad i un yn byw dan lywodraeth y corff; a daeth yn raddol i olygu un goleuedig a rhinweddol y dyn goreu y gwyddai y Groegiaid am dano. A ydym ni yn adnabod ei amgenach? Gallwn sylwi mewn atebiad fod rhagoriaeth Cristionogaeth ar baganiaeth, ac ysbrydoliaeth ar athroniaeth, yn cael ei awgrymu drwy yr un gair hwn: yr ydym ni yn adnabod yr ysbrydol. Cyflwynir ger ein bron yn y Beibl gymeriad sydd, nid yn unig yn well, ond un sydd yn well o gymaint, fel y mae yr anianol—goreugwr paganiaeth yn ddyn drygionus yn ei ymyl—un sydd gymaint yn burach ac uwch, fel y mae y moesol—pendefig athroniaeth—yn ddynsawd dirmygus yn ei wyddfod. Try prydferthwch y dynol yn wrthuni yn llewyrch y dwyfol.
III. Y rhai ysbrydol ydyw un o enwau y Testament Newydd ar y credinwyr; a phrin y meddant o gwbl enw