Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysgrythyr i wrthod hyn. Gwyddom fod ymhob creadur rywfaint o le iddo ymagor a thyfu—fod gallu mewn mesen i ymddadblygu yn dderwen, ac mewn baban i gynyddu yn llanc. Nid yw yn debyg y gall mïeri neu frwyn weithio eu hunain yn balmwydd neu gedrwydd. A ddichon oenig ymnewid yn farch, neu blentyn yn gerub? Nid oes dim tebyg i hynny wedi cael hyd yn hyn ei brofi.

Daliwn yr un modd nad all y cnawdol, er ei fod yn blaenori y sanctaidd, byth gynnyrchu y sanctaidd. Ni ddichon yr anianol, trwy unrhyw ddadblygiad naturiol (Ioan iii. 3, a 1 Cor. xv. 50), ddyfod yn ysbrydol. Nid y daearol wedi ymolchi ac ymiro yw y nefol. A chredwn fod y dynion a ymdrechant, yn annibynol ar ddylanwad yr efengyl, weithio iddynt eu hunain gymeriadau perffaith, yn ceisio cyflawni yr annichonadwy. Byddai can hawdded iddynt newid eu rhywogaeth—llamu allan o un dosbarth o greaduriaid i mewn i ddosbarth arall o greaduriaid, a thraws-sylweddu llygredigaeth ac anianoldeb eu natur yn burdeb ac ysbrydolrwydd.

Ymegyr y pwnc hwn i lawer o gyfeiriadau. Ymfoddlonwn ar wneuthur tri neu bedwar o sylwadau byrion:—

1. Y mae y dyn ysbrydol yn un Ysgrythyr i wrthod hyn. Gwyddom fod ymhob creadur rywfaint o le iddo ymagor a thyfu—fod gallu mewn mesen i ymddadblygu yn dderwen, ac mewn baban i gynyddu yn llanc. Nid yw yn debyg y gall mïeri neu frwyn weithio eu hunain yn balmwydd neu gedrwydd. A ddichon oenig ymnewid yn farch, neu blentyn yn gerub? Nid oes dim tebyg i hynny wedi cael hyd yn hyn ei brofi.

Daliwn yr un modd nad all y cnawdol, er ei fod yn blaenori y sanctaidd, byth gynnyrchu y sanctaidd. Ni ddichon yr anianol, trwy unrhyw ddadblygiad naturiol (Ioan iii. 3, a 1 Cor. xv. 50), ddyfod yn ysbrydol. Nid y daearol wedi ymolchi ac ymiro yw y nefol. A chredwn fod y dynion a ymdrechant, yn annibynol ar ddylanwad yr efengyl, weithio iddynt eu hunain gymeriadau perffaith, yn ceisio cyflawni yr annichonadwy. Byddai can hawdded iddynt newid eu rhywogaeth—llamu allan o un dosbarth o greaduriaid i mewn i ddosbarth arall o greaduriaid, a thraws-sylweddu llygredigaeth ac anianoldeb eu natur yn burdeb ac ysbrydolrwydd.

Ymegyr y pwnc hwn i lawer o gyfeiriadau. Ymfoddlonwn ar wneuthur tri neu bedwar o sylwadau byrion:—

1. Y mae y dyn ysbrydol yn un goruwchnaturiol. Y mae felly o ran ei haniad ac o ran ei fywyd. Yn ol deddfau anian y dygwyd ef fel creadur i fod; a thrwy gyfranogi o gynnyrchion anian y mae yn parhau mewn bod.

Ond nid drwy (Ioan i. 13) unrhyw ymdrechion dynol, nac ymarferiad âg unrhyw foddion naturiol, y gwnaed ef yn sant. Derbyniodd fywyd tragwyddol drwy weithrediad neillduol yr Ysbryd Glân; a thrwy iddo gyfranogi o fendithion tragwyddol y mae y bywyd hwnw yn cynnyddu ac yn ymgryfhau ynddo. Gan nad pa mor ddaearol, neu anianol, neu gythreulig, ydyw o ran ei darddiad ac o ran ei gymeriad fel hen ddyn, y mae fel dyn newydd "oddi uchod;" ac y mae yn amlygu purdeb a chariad ei fyd gogoneddus ei hun yn nghanol llygredigaeth a gelyniaeth y byd hwn. Y mae bodolaeth y credadyn yn wyrth, ac yn gymaint o wyrth ag oedd creu Adda.

2. Y mae y dyn ysbrydol yn ddwyfol. Trwy ddyfod yn ddwyfol y gall pechadur ddyfod yn ysbrydol. Y mae yn