Gweddiant mewn cymoedd cuddiedig
A:m lwyddiant gwirionedd a moes;
Ymladdant mewn trefydd gwenwynig
D:ros Grist ag ellyllon eu hoes;
Cryfhant mewn sancteiddrwydd a gobaith;
C:ynyddant mewn cariad a ffydd;
Esgynnant o gaddug a dylaith
I wynfa o fywyd a dydd.
NATUR EGLWYS.
[Crynodeb o sylwadau a wnaed ar y pwnc uchod yn Nghyfarfod yr Ordeinio yn Nghymdeithasfa Llanrwst, Mehefin 28ain, 1894.]
ARWEINIR dyn gan y fath eiriau a natur, sylwedd, a hanfod, i ororau pellenig a dyeithr. Ychydig iawn a wyddom am y sylweddau mwyaf cyffredin. Gwaith caled i mi a fyddai egluro natur rhedynen neu hanfod tywodyn. Ni feddwn eto, ar ol canrifoedd o feddwl, unrhyw esboniad boddhaol ar fywyd. Y mae gwŷr galluog a dysgedig wedi cyfarfod â rhwystrau wrth geisio olrhain tarddiad a chynnydd cymdeithas a llywodraeth. A phwy a ddichon grynhoi holl awgrymiadau y gair Eglwys i gylch brawddeg neu araeth! Gwesgid hi o bryd i bryd gan amgylchiadau, i gyhoeddi ei syniad am dani ei hun; ac y mae gwerth mawr ar lawer darluniad sydd genym o honi. Prin, er hynny, y mae dim a feddwn yn ddarnodiad perffaith o honi; ac nid oes genyf fi ddigon o ddoethineb nac o ryfyg i amcanu at y fath beth.
Carwn allu galw sylw at elfen neu ddwy yn ei chyfansoddiad. Bum yn ymholi ac yn ymbalfalu am ryw egwyddor digon ysbrydol a grymus i egluro ei natur, ac am ryw wirionedd digon bywiol ac eang i gynnwys ei holl unoliaeth diledryw, ac, ar yr un pryd, ei holl amrywiaeth