Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwnaeth: gorfoledded meibion Sïon yn eu Brenin." Oblegid drwyddo ef y mae yr Eglwys "fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog." Preswylia y Jehofah fel bywyd ei fywyd, ac enaid ei enaid, ymhob un o wir aelodau y gymdeithas hon. Ae er ei fod weithiau yn fwy, ac weithiau yn llai amlwg ynddi, ni fyddai arnaf, hyd yn nod mewn amser marwaidd fel hwn, lawer o ofn ei galw hi, yn gystal a Rhuwun arall, yn Emmanuel—Duw gyda ni ac ynom ni. "Ac yn deulu Duw:" yn ol yr ymadrodd hwn, tad a phlant, a phlant a thad—plant drwy genedliad a meibion drwy fabwysiad yw yr Eglwys. Y Creawdwr ydyw y naill; credinwyr ydyw y lleill. A chan fod y fath berthynas rhyngddynt, ymawyddant am gymdeithas eu gilydd. Ymgryfha y plant drwy gyfranogi o rasusau y Tad; ac ymwthia y Tad i olwg y byd drwy ymweithio i natur a bywyd y plant. Wrth gyfranogi o hono Ef, ymdebygant hwy yn barhaus iddo, ac adlewyrchant ei gymeriad o hyd yn berffeithiach. Fel afonydd y mynyddoedd—plant y môr, a llanw y môr—tad yr afonydd, yn cydgyfarfod ac yn rhedeg i'w gilydd yn aberoedd Cymru, y mae Duw a duwiolion yn ymgyfarfod, gan ymdreiddio i adnabyddiaeth bellach o ac i gymundeb agosach â'u gilydd, yn yr Eglwys. Dylem, o ganlyniad, os nad allwn ddim ynom ein hunain, ystyried y gallwn bob peth yn a thrwy yr Hollalluog.

Gwelir mor ddwyfol ac mor ddynol yw yr Eglwys drwy y geiriau canlynol: "Yn yr Hwn (sef yr Arglwydd) y'ch cyd—adeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy yr Ysbryd." "O'r hwn (sef Crist) y mae yr holl gorff wedi ei gydymgynull a'i gydgysylltu, trwy bob cymmal cynnal—iaeth, yn ol y nerthol weithrediad yn mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad." Gosodant hi allan mewn dwy wedd—fel corff byw ac fel adeilad cynyddol; a chynnwysant rywfaint o gymysgedd ffugyrol. Nid ydyw hynny yn rhyfedd; oblegid, er fod yr Ysbryd Glân yn alluog i gyflawni pethau mawrion a gogoneddus, prin y gall Ef drosglwyddo prif feddyliau Duw yn ddïanaf drwy iaith ddynol. Gall llawer o honom ddeall hyn, a chydymdeimlo i ryw fesur âg Ef yn ei ymdrechion, o herwydd y mae gwisgo creaduriaid