ysbrydol, pa mor fychain bynag fyddant, yn deilwng mewn dillad daearol, yn waith anhawdd iawn. Am hynny, mewn trefn i gyflwyno y syniad cywiraf am dani ag oedd yn ddichonadwy, Efe a ddysgodd fod yr Eglwys yn tyfu ac yn cael ei hadeiladu. Fel corff y mae yn cynyddu drwy gyfranogi o fywyd a nerth ei Phen; ac y mae, ar yr un pryd, yn cael ei chyfodi o gareg i gareg gan Adeiladydd dwyfol. Tŷf fel pren drwy anadlu iddi ei hun y nwyon nefol; ac y mae pob cangen wrth dyfu yn cyfranogi o gadernid y graig; ac y mae pob careg wrth gael ei gosod yn ei lle yn ymlenwi â bywyd ysbrydol (Daniel ii. 34, 35). Nid oes fawr o synwyr bach llenyddol y ddaear mewn son am "faen bywiol" a "meini bywiol" (1 Petr ii. 4, 5); ond y mae synwyr yr Hollwybodol yn y geiriau, ac yr wyf fi yn foddlawn ar hwnw. Dyma ydyw yr Eglwys—un Maen mawr, bywiol, yn trosglwyddo bywyd i lawer o feini bychain. Ymdraidd y Dwyfol drwy y dynol ynddi, a chyfranoga y dynol o adnoddau y Dwyfol. Cyferfydd clai llwyd y ddynoliaeth â marmor gwyn y Duwdod ynddi, ac ymweithiant i'w gilydd, ac ymffurfiant yn deml ysbrydol a gogoneddus. Y Jehofah ydyw saer y ddinas fendigedig—pechaduriaid ydyw ei defnyddiau; Efe ydyw yr Adeiladydd, hwythau yw yr adeilad. Diau fod y gwaith hyd yma ymhell o gyfateb i'r cynllun—fod gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys fel y mae yn bod ymhlith dynion, ac fel y mae yn bod yn meddwl ei Hawdwr. Daw yn raddol yn berffaith, oblegid y mae y Cynllunydd yn preswylio ynddi ac yn trosglwyddo ei fywyd yn barhaus iddi. Ni fydd brycheuyn na chrychni (Eph. v. 27) arni. "Pan adeilado yr Arglwydd Sïon, y gwelir Ef yn ei ogoniant." Trig yn bresenol mewn goleuni mor danbaid, fel nad ellir ei ganfod; ond bydd i belydrau hawddgaraf ei ogoniant ymddysgleirio byth bythoedd ynddi hi drwy hen feini duon a geirwon y ddaear.
Gan fod yr Eglwys yn ddwyfol ac yn ddynol, y mae hefyd yn nefol ac yn ddaearol—yn deyrnas ysbrydol ac yn sefydliad cyhoeddus. A rhaid iddi fod felly mewn trefn i ateb ei dybenion a chyrhaedd ei hamcanion. Oblegid, pe gweledig yn unig a fyddai, ymddangosiad gwag, twyllodrus