—cwmwl diddwfr, siomedig i eneidiau sychedig, a fyddai. A phed yn yr anweledig yn unig y byddai, ni byddai o gwbl yn y byd hwn, ac nis gallai ddylanwadu arno. Rhaid iddi, ar y naill law, feddu enaid a bywyd, ac, ar y llall, feddu corff a hanfodiad cymdeithasol; ac y mae y naill mor bwysig ag ydyw y llall. Ymofidiwn o herwydd na byddai yn fwy ysbrydol nag ydyw; ond ni ddymunem iddi fyned mor nefol fel ag i beidio bod yn ddaearol. Nid ydyw yn bresennol yn agored i hynny. Yn hytrach nag ymddyrchafu ac ymgolli mewn nefoldeb pur, ei pherygl beunyddiol ydyw ymddaearoli ac ymgaledu i ffurfioldeb trancedig. Yr enbydrwydd y mae ynddo mewn oes ddysgedig fel hon ydyw, nid myned yn ormod o enaid, ond myned yn ormod o gorff; nid myned yn rhy angylaidd, ond ymollwng i gerdded ar ei thòr ac i fwyta pridd fel sarph. Yn ol y graddau y bydd yn cyfranogi o Dduw, y gall hi fod yn fendithiol a gogoneddus; ac ymwasgu ato Ef ydyw ei dyledswydd wastadol. Rhaid iddi adeiladu capelau o geryg y ddaear; ond rhaid iddi wneyd hyny mewn trefn i gyrhaedd amcanion dwyfol. Rhaid iddi dalu am danynt âg arian marchnadol; a phe gallai fod yn arianog heb fod yn ariangar, gallai hyny fod yn fanteisiol iddi; ond, os ydyw golud yn anwyl—yn werthfawrocach yn ei golwg na sancteiddrwydd, a chlod dynion yn bwysicach na chymeradwyaeth ei Harglwydd, y mae yn rhan o'r byd mor wirioneddol ag y mae masnach yn rhan o hono. Rhaid iddi sicrhau ei hun yn y meddiant o eiddo ac yn y mwynhad o freintiau cymdeithasol, drwy gyfreithiau daearol a threfniadau dynol; ond os ymollynga i ymddibynu am ei pharhad ac am ei chynnydd ar y pethau hynny, arddengys yn fuan esiampl arall o Dŵr Babel. Yr Oen ydyw ei goleuni hi.
Cawn awgrym am ei natur yn ei henw—Eglwys, yr hwn sydd yn ffurf Gymreig ar un o hen eiriau y Groegiaid, ac yn golygu yn llythyrenol—galw allan. Defnyddir ef mewn ystyr fwy a llai ëang. Gall gynnwys y saint yn y nef ac ar y ddaear, neu holl broffeswyr crefydd y byd, neu gyfundeb arbenig, neu gangen unigol. Ac os gofynir pa fodd y dichon y gair ymëangu ac ymgyfyngu fel hyn, gellir ateb mai oblegid fod yr elfenau mwyaf hanfodol i