Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfansoddiad cyfundeb, yn angenrheidiol i gyfansoddi deadell neillduol. Rhaid cael Duw a rhaid cael dynion ymhob un o honynt—y ddau mewn undeb a chymundeb:

"Tragwyddol gariad ydyw Ef,
Wnaeth Dduw a ninnau'n un."

Caiff pob credadyn a dderbynir iddi, ei hun mewn sefyllfa ryfedd ac mewn cymdeithas ogoneddus: Heb. xii. 22—24. Traidd bywyd a sancteiddrwydd dwyfol drwy farwolaeth a llygredigaeth ddynol ynddi. Meddylier am orchestion bywyd llysieuol ac anifeilaidd—fel y mae yn cyfuno goleuni, gwres, awyr, dwfr, pridd, ac yn eu llunio yn gyrff iraidd a phrydferth! Fel y mae yn gogoneddu baw a nwyon drewedig, gan eu gwneyd yn flodau ac yn dderw, yn eryrod ac yn ychain! Felly hefyd y mae y bywyd ysbrydol sydd yn yr Eglwys yn tynu ato ei hun, gan drawssylweddu a phuro, y defnyddiau mwyaf cyffredin. Try feilchion trahaus yn weision gostyngedig, cybyddion geirwon yn bendefigion grasol, a hen feddwon budron y byd yn saint caruaidd. Impir ynddi lawer o ddrain y ddaear i mewn i winwydden y Nef. Daw llawer o rug y ddynoliaeth drwyddi yn gangenau o Bren y Bywyd!

Ymrana hanes ei henw i dri chyfnod: Paganaidd, Iuddewig, a Christionogol. Defnyddid y gair yn Athen i olygu galw allan a galw ynghyd y dinasyddion—gwŷr rhyddion a phendefigaidd y weriniaeth, i drafod a phenderfynu materion cyhoeddus. Ni oddefid i ddyeithriaid, na chaethweision, na drwgweithredwyr, i fod yn aelodau yn yr eglwys baganaidd hono. Ac awgrymir drwy hyn fod Eglwys Crist, er yn y, byd, i fod yn ysgaredig oddiwrth y byd, ac i gael ei gwneyd i fyny o bobl ryddion ac anrhydeddus, a meddiannol, drwy eu hundeb â Christ, ar allu a hawl (Matt. xviii. 15—20) i addysgu a disgyblu, i ddeddfu a llywodraethu. Gwelir fod ei henw yn tybied dwy blaid; un yn galw ac eraill yn cael eu galw: Duw ydyw y naill, pechaduriaid ydyw y lleill. Trwy gyfarfyddiad a chymdeithas y pleidiau hyn y mae yr Eglwys yn hanfodi ymhob oes. Cawn yr Arglwydd yn y cyfnod cyntaf yn ei hanes yn ymostwng i waered at ddynion;