ymddyddanai, fel gŵr â chyfaill, â phatrïarch ar ol patrïarch; cyfarwyddai hwynt ar lwybrau dyrys bywyd, a daliai gymundeb â hwynt mewn mynydd a maenol. Gwna yr un peth, mewn dull uwch, o hyd. Trwyddi hi y mae dynolryw yn derbyn pob goleuni a daioni ysbrydol o hono Ef. Nid ydyw mor amlwg ynddi bob amser; ond nid ydyw byth yn ymadael o honi. Dywedir weithiau ei fod yn ymbellhau oddiwrthi, ac ar brydiau eraill ei fod yn agosâu ati; ac y mae hyny mewn rhyw ystyr yn wir; ond nis gall ei gadael mwy nag y gall yr haul adael ei ffurfafen. Y mae hwnw yn ymddysgleirio mwy ar rai adegau: a gwna y Jehofah hyny hefyd. Nid yw yr haul yn yr un pellder bob amser oddiwrth y ddaear; yn y gauaf y mae agosaf ati; a dichon fod yr Arglwydd yn nês mewn amseroedd oerion a thymhestlog at ei bobl nag yr ymddengys iddynt hwy. Gweithio yn araf a dystaw y mae ynddi a thrwyddi yn yr oes hon; ond nid ydyw oblegid hyny yn gweithio yn llai gwirioneddol; ac nis gall dynion ysbrydol gamgymeryd ei weithrediadau. Pe gwelem wlith ar fynydd fil o filldiroedd oddiwrth y môr, gwyddem mai o hono ef y byddent wedi cychwyn. Ac y mae y saint yn clywed llais, yn gweled gwedd, ac yn teimlo dylanwad, eu Tad yn yr Eglwys ac ar hanes y byd oddiallan iddi, yn yr amseroedd anianol a daearol hyn. "Duw sydd yn ei chanol." Efe ydyw ei môr; pechadur ydyw ei hanialwch. Y mae Sahara cras, llawn o ymlusgiaid gwenwynig ac o fwyst—filod rheibus y ddynoliaeth, a Môr Tawelog, diwaelodion, y Jehofah, yn cyfarfod eu gilydd ynddi hi.
Cawn hefyd mai ecclesia a ddefnyddir yn Nghyfieithiad y Deg a Thriugain am gynnulleidfa meibion Israel. Ceidw y gair, o ganlyniad, ei ystyr wreiddiol yn y cysylltiad hwnw, oblegid galwasai yr Arglwydd y genedl hono o fysg y gweddill o ddynolryw, ac, yn wir, o ddiddymdra, fel haul, i amlygu iddynt hwy ei gymeriad, ac i fod yn offerynol i ddwyn oddiamgylch eu hiachawdwriaeth. Dyna oedd yr Eglwys—cenedl â Duw yn frenin arni; hyny ydyw heddyw ac a fydd byth. Ni wêl synwyr anianol y gwirionedd hwn yn eglurach yn un man nag yn hanes yr Israeliaid; eanys yr oedd yr Arglwydd yn Greawdwr ac yn Gynnaliwr iddynt hwy mewn modd mwy arbenig nag u