Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nrhyw bobl ar wyneb y ddaear. Buont yn byw am lawer o flynyddoedd yn llythyrenol ar wyrthiau, a threiddiai yr elfen oruwchnaturiol drwy eu holl hanes. Felly o hyd—ar Dduw y mae yr Eglwys yn ymborthi ymhob gwlad. Pa fodd yr ymdeithient hwy ar hyd yr anialwch cras drwy ganol llwythau gelyniaethus? Am fod colofn yr Arglwydd yn ymsymud yn ol ac ymlaen gyda hwynt. Dyna ydyw hi ymhob oes—pobl etholedig a cholofn ddwyfol. Edrycher arnynt yn ffoi o flaen byddin gref, rhwng mynyddoedd aruthr, i wyneb y môr, a gwelir Lluniwr yr eigion yn eu cyfarfod ar ei lân: adnabu y môr ei Greawdwr, ac ym—agorodd ar unwaith o flaen ei etholedigion! Rhag-gysgodai hyn lawer amgylchiad yn ei hanes hi. Yr un modd, y mae y Tabernacl yn arwyddlun o honi: gwneid ef i fyny, ar y naill law, o bethau cyffredin a geirwon, ac, ar y llall, o ddefnyddiau ardderchog a drudion: un llen ar ddeg o flew geifr—creaduriaid diharddwch a diberarogl, a cherubiaid o aur; crwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion—milod rhad a hurt, a thrugareddfa o aur coeth yn cael ei hystaenio â gwaed; crwyn daearfoch oddiallan, ac oddifewn y Shechinah gogoneddus. Onid oedd ef drwy y pethau hyn yn gysgod o gyfansoddiad—o lygredigaeth a sancteiddrwydd, tylodi a golud, gerwindeb a gogoniant—yr Eglwys? Cynnwysa bob amser wreng a boneddig, lleyg a llên, dynionach diddym a chewri llariaidd, poblach ddihanes ac enwogion grasol, hyrddod o ddynion a cherubiaid o ddynion, yr amrywiaeth mwyaf, a Chreawdwr y cyfan. Annuwiolion ailanedig ydyw ei deiliaid; y Gŵr a goronodd dynion â drain, ac a goronodd Duw â gogoniant, ydyw ei Brenin.

Yn y Testament Newydd y dysgir egluraf fod yr Eglwys yn ddwyfol ac yn ddynol. Gwelir ei bod yn gyfansoddedig o bobl wedi cael eu galw gan yr Arglwydd allan o'r byd, nid o'r ddaear, ato Ef ei hun, i gyfranogi o fendithion ei ras, i fyw egwyddorion ei Air, ac i gario ymlaen ei amcanion goruchel mewn rhagluniaeth ac iachawdwriaeth. Cawn eu bod yn "gyfranogion" "o'r galwedigaeth nefol," "o ras," "o'r duwiol anian," "o ddyoddefiadau," ac "o ddyddanwch" dwyfol, "o'r Ysbryd Glân," "o Grist," "o sancteiddrwydd," ac "o ogoniant" Duw. Ystyrier hefyd