Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Gethsemane, ac yn dringo Calfaria i farw! Yn gyffelyb, cawn ei bod hithau wedi ffoi i lawer Aipht, wedi ymguddio mewn llawer ogof, wedi bod yn bwyta bara cystudd ac yn yfed dwfr blinder yn hir, wedi bod yn eistedd filwaith yn flin a sychedig wrth ffynnonau hespion yn anialwch cras y byd, wedi bod yn gweddio ar fynyddoedd ac mewn coedwigoedd, yn gystal ag mewn temlau a chapelau, wedi profi pangfeydd llawer Gethsemane a dringo llethrau geirwon llawer Calfaria; ac wedi—drwy y cwbl, gynnyddu mewn corffolaeth, ac mewn adnabyddiaeth o honi ei hun ac o amcanion ei bod; ac y mae yn ennill yn raddol fesur o ffafr dynion heb golli, mi hyderaf, ffafr Duw. Mor debyg yw iddo! Gwyn fyd na fyddai yn debycach!

Gan ei bod yn ddwyfol ac yn ddynol, y mae yr Eglwys hefyd yn berffaith ac yn anmherffaith. Cydnabyddir fod ymhlith ei chymunwyr, fel y mae yn sefydliad gweledig, bob amser fwy neu lai o annuwiolion. Nid oes neb" felly ynddi fel y mae yn deyrnas ysbrydol; oblegid gwneir hi i fyny o etholedigion achubedig yr Arglwydd. Nid ydyw ar bob cyfrif yn gwbl berffaith yn yr agwedd olaf: y mae yn anmherffaith yn yr un ystyr ag y mae y wawr neu faban iach, dïanaf, yn anmherffaith, oblegid nad yw y naill yn ddydd, ac nad yw y llall yn ddyn. Y mae yn anmherffaith hefyd yn y golygiad fod yn ei haelodau—yn y rhai goreu yn gystal ag yn y rhai gwaethaf o honynt—eto lawer o dywyllwch, daearoldeb, a llygredigaeth. Yr un pryd, fel mai Duw yr Eglwys ydyw Duw y duwiau, Eglwys Dduw hefyd, gan nad faint o ddiffygion a beiau a berthyn iddi, ydyw y gymdeithas oreu a phuraf ar wyneb y ddaear. Ynddi hi y mae y dynion goreu; ac y mae yr Arglwydd—ffynnonell pob perffeithrwydd—yn preswylio ynddi hi. Gan nad o ba safle yr edrychwn arni, gwelwn y ddwy wedd hyn arni. Wrth geisio ei dadansoddi o gyfeiriad y dynol, cyfarfyddwn ynddi âg elfenau o fywyd, nerth, purdeb, hunan—aberthiad, na pherthynant o gwbl i ddynoliaeth. Deuwn wrth ei hystyried o gyfeiriad y dwyfol ar draws gwythienau o wendid, meddalwch, ffolineb, bydolrwydd, hollol estronol i ddwyfoldeb. Golyger hi o bob tu, a chanfyddir fod tylodi a gwaradwydd dyn a golud