Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau, Pregethau a Chaniadau.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gogoniant Duw, yn cydgyfarfod ynddi. Y mae tywyllwch amser a goleuni tragwyddoldeb yn ymgymysgu yn ei hawyr. Clywir yn ei phyrth ubain chwerw y ddaear a pheroriaeth orfoleddus y Nef. Ynddi hi y mae Cariad annherfynol yn ymgeleddu dynoliaeth ysig a dall; a bydd tragwyddoldeb diddiwedd yn ymborthi ynddi ar y gwledd—oedd a ddarparodd tragwyddoldeb diddechreu.

"O! Salem bur, O! Sion wiw,
Fy nghartref i a chartref Duw."

Fel hyn, oddiwrth yr Arglwydd y cychwynodd yr Eglwys, ac o hono Ef yr hanodd. Ac yn ychwanegol at fod yn waith iddo yn effaith meddylgarwch a chariad anfeidrol, y mae yn ei gynnwys Ef ei hun. Yn nhragwyddoldeb, yr oedd yr Eglwys yn Nuw; mewn amser, y mae Duw yn yr Eglwys. Ac y mae hi yn deilwng o hono Ef. Yn wir, y mae pob peth a wnaeth—pob seren ac angel—yn deilwng o hono; ond y mae rhai o honynt yn cynnwys mwy o hono Ef ei hun nag eraill. Ac o bob peth a ddeilliodd oddiwrtho ac o hono, yr Eglwys sydd yn cynnwys mwyaf—mwyaf o feddwl a chalon, o fywyd a golud y Jehofah. Tardd hi o ddyfnderoedd is a gloewach ynddo na dim arall. Oddiwrtho Ef y cychwynodd holl wrthddrychau anian, ac Efe sydd yn eu cynnal; ond rhydd le mawr i ail achosion mewn creadigaeth a rhagluniaeth. Y mae wedi rhwymo â deddfau y bydoedd i gadw eu cylchoedd, a hwy a ufuddhant; ac y mae wedi ordeinio i holl greaduriaid y byd hwn lïosogi eu hunain, a gwnant hynny drwy yr oesoedd. Defnyddia offerynau yn yr Eglwys; ond y mae hi yn ymddibynu yn fwy digyfrwng arno, ac yn derbyn ei bywyd yn fwy uniongyrchol o hono, na dim arall. Ni fyddai yn ormod dywedyd ei bod, fel y mae y Mab yn cael ei genedlu yn ddiddechreu ac yn ddiddiwedd o'r Tad, ac fel y mae yr Ysbryd Glân yn deilliaw o'r Personau eraill o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,—ei bod yn llifo yn barhaus allan o fywyd unol y Tri. Y mae pob gwir aelod ynddi wedi cael ei eni o Greawdwr yn gystal ag o greadur; ac y mae pob un o honynt, o ganlyniad, yn ddwyfol ac yn ddynol. O herwydd hynny, y mae, er newid yn barhaus, yn aros