trefn i ymgymhwyso ar eu cyfer, ni ddylai byth anghofio fod yn perthyn iddi allu i symud mynyddoedd; a phan fydd yn ddigon cref i wneyd hyny, bydd hefyd yn ddigon doeth i wybod pa bryd, pa fodd, ac i ba le i'w symud. "Canys efe a fydd megys pren wedi ei blanu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddiwrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd îr, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho." Onid yw hyn yn ddarluniad cywir o honi hi yn ei sefyllfa oreu? Mewn cyfnodau dirywiedig y mae yn agored i ymddaearoli; gwelir hi yn pryderu, yn ffwdanu, ac yn cyflawni llïaws o bethau annheilwng o honi ei hun. Camgymeriad mawr yw hyny. Y peth goreu all hi wneyd, o dan bob amgylchiad, ydyw bod yn ffyddlawn iddi hi ei hun, a byw allan ei hegwyddorion ei hun; ymagor o hyd i dderbyn o'r dwyfol, a syrthio yn nhylodi amser yn ol ar adnoddau tragwyddoldeb. Nac ofned ei chalon; nid oes berygl iddi drengu. Perthyna tragwyddoldeb diddiwedd yn gystal a diddechreu iddi. Nid oes neb na dim mor hen a hi yn diflanu. Y mae pawb a phob peth sydd am farw, yn gwneyd hyny cyn cyrhaedd yr oedran hwn. Y mae hi wedi byw gormod i farw byth.
Caraswn fanylu ar neillduolion Protestaniaeth, Ymneillduaeth, a Methodistiaeth; ond rhaid ymattal ar hyn. Y mae yr ysgrif eisoes lawer yn rhy faith. Ond nis gallaf derfynu heb ofyn cwestiwn neu ddau, gan adael i eraill geisio eu hateb. Yr ydys wedi bod yn trafod un o wirioneddau mwyaf amlwg a bendigedig y Bibl—presennoldeb yr Arglwydd ymhlith ei bobl; ac ymwasga y gofyniad canlynol arnom, Paham na fuasai yr Eglwys wedi manteisio mwy arno, a phaham na wnai?
Nid yn ddiweddar y darganfyddwyd ef; dysgir ef gydag eglurdeb; cydnabyddir ef yn gyffredinol; deallir ef i fesur; a theimlir ef i raddau, bob amser: paham, gan hyny, na byddai hi drwy y derbyniad o ddadguddiad mor fywiol a grasol. yn fwy goleuedig a sanctaidd, ac yn llawnach o gariad a gobaith, o weithgarwch a hunanymwadiad, nag ydyw? Y mae yn wirionedd mor fawr a gogoneddus, fel y mae yn parhau, er mor gynnefin åg ef ydym, yn newydd a dyeithr i ni. Preswyliad Crist yn y saint, ac ynddynt