Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ddweud fy mod wedi rhoddi blynyddoedd i'w astudio. Y mae'n naturiol i mi, gan hynny, wybod llawn mwy am y frwydr a fu rhwng Napoleon a Wellington ar y deunawfed o Fehefin, 1815, nag am y frwydr a fu yn amser Abram rhwng Amraphel brenin Sinar a Bera brenin Sodom.

Er cynifer o ddynion rhyfedd a ddaeth i'r amlwg yn y cyfnod cyffrous y crybwyllais amdano, Napoleon yn ddiau oedd y rhyfeddaf. Plentyn y Chwyldroad ydoedd o, ac fe ellid meddwl bod Ffrainc y pryd hwnnw mewn gwewyr o achos ei bod ar esgor arno ef.

Ac heblaw mai Napoleon oedd dyn enwocaf ei oes, efô yw dyn enwocaf pob oes, oblegid y mae eisoes fwy o lyfrau wedi eu scrifennu amdano ef nag am un dyn arall ar y ddaear. Fe dystiolaethodd Mr. Gladstone mai Napoleon oedd y dyn mwyaf ei ymennydd a fu yn y byd er amser Iwl Cesar; ac fe gydsynia pawb mai Hannibal, Cesar, a Napoleon yw'r tri chadlywydd pennaf a welodd y byd. Yn wir, yr oedd Napoleon yn fwy o gadlywydd na Cesar, er bod Cesar yn fwy o lywodraethwr, yn fwy o lenor, ac yn fwy o ddyn, nag oedd yntau. Yn awr, gan ei fod yn ŵr mor hynod, ac yn dangos yn ei ddyddiau gorau gymaint o ddychymyg wrth ryfela ag a ddangosodd Dante wrth farddoni, a Raffael