Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod nid yn unig yn gryf, ond hefyd yn hen. Rhaid iddo fod wedi cefnu er ys talm ar y cyfnod cyffrous, pryd y mae gorfod arno dreulio'i nerth mewn ymddadlau â gwrthwynebwyr, er mwyn ymsefydlu neu ymgadarnhau yn y wlad. Cyn y Diwygiad Protestannaidd, pan nad oedd ond un cyfundeb yng Nghymru, fe gynhyrchodd y Cymry lenoriaeth y mae iddi enwogrwydd Europeaidd; canys gweithoedd y cyfnod hwnnw, megis y Gododdin, y Greal, a'r Mabinogion, ydyw'r unig weithoedd Cymraeg yr ydys yn eu hastudio yng ngwledydd y Cyfandir. Yn wir, y mae'r gweithoedd hanner crefyddol a hanner arwraidd hyn yn fwy hysbys o lawer i'r Ellmyn nag ydynt i gorff y Cymry. Pan gymerodd Eglwys Loegr le yr Eglwys Gatholig fel prif, a bron fel unig, eglwys y Cymry, fe gynhyrchwyd yn y cyfnod hwnnw lenyddiaeth sy'n ail i lenyddiaeth y cyfnod blaenorol; ac er na chyfieithwyd un o lyfrau'r cyfnod hwn i'r Ffrangeg a'r Ellmyneg, fe gyfieithwyd un ohonynt, sef "Gweledigaethau'r Bardd Cwsg", i'r Saesneg; a hynny gan lenor Seisnig wedi dysgu Cymraeg.

Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd i Gymru, fe aeth Eglwys Loegr yn ebrwydd yn rhy wan ac yn rhy estronol i gynhyrchu llenyddiaeth Gymraeg o radd uchel; ac y mae'r Ymneilltuwyr eto'n rhy