Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cenedl ac yn ddynion byd. "Dilyniad Iesu Grist", gan Thomas a Kempis, yw'r llyfr crefyddol y bu mwyaf o ddarllen arno o bob llyfr oddieithr y Beibl; ac fe drowyd hwn o'r Lladin i Gymraeg ystwyth ond lled werinaidd, gan Huw Owen o Fôn. Ychydig o'r "Arweiniad i Fywyd Defosiynol", gan François de Sales, Esgob Genefa, a drowyd i'r Gymraeg; ac y mae'r ychydig hynny, ysywaeth, yn "Llyfr Gweddi'r Catholig"—llyfr na byddai'n ddiogel ei ddodi yn nwylo Protestaniaid ieuainc. Llyfr Catholig wedi ei Brotestaneiddio ydyw "Llyfr y Resolusion" hefyd, a Gymreigiwyd gan Dr. Dafis o Fallwyd, un o gyfieithwyr y Beibl Cymraeg. Er fy mod yn myned i grybwyll am lyfrau defosiynol eraill o waith Protestaniaid, eto fe eddyf pob Ymneilltuwr diragfarn nad oes gan Brotestaniaid unrhyw wlad un llyfr defosiynol o'r radd uchaf i'w gynnig i grefyddwyr; a hynny ydyw un achos paham y mae Protestaniaid gymaint mwy diffygiol na'r Catholigion mewn lledneisrwydd a pharchedigaeth. Ond os ydym ni'r Anghydffurfwyr yn rhy ofnus neu'n rhy gulfarn i annog ein pobl ieuainc i ddarllen y ddau lyfr byd-enwog y soniwyd amdanynt, yna anoger hwynt i chwilio am gyfieithiad godidog Elis Wynn o "Reol Buchedd Santaidd" Dr. Jeremy Taylor, yr hwn oedd yn