eang ac annibynnol fel nad yw'n hawdd penderfynu i ba gyfundeb yr oedd o'n perthyn. "Tri Aderyn yn Ymddiddan" yw'r hynotaf o'i lyfrau; ond y mae'r rhan fwyaf o'r lleill mor sylweddol ag yntau, er y gallant fod i rai yn llai difyrrus.
O'r llyfrau tramor a drowyd o'r Lladin i'r Gymraeg, "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," gan Hugo Grotius, yw'r mwyaf ysgolheigaidd; ac efô, yn fy marn i, yw'r cymhwysaf o bob llyfr Cymraeg i fod yn llyfr dosbarth mewn athrofa neu gyfarfod darllen.
Y llyfr nesaf iddo o ran ysgolheictod a gallu rhesymegol ydyw "Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr", gan Esgob Jewel, wedi ei gyfieithu o'r Lladin yn ystwyth odiaeth gan Morus Kyffin. Er mai amddiffyn Eglwys Loegr yn erbyn edliwiadau Eglwys Rufain y mae Jewel, eto y mae ei waith, erbyn hyn, yn hytrach yn amddiffyniad i Ymneilltuaeth nag i'r Eglwysyddiaeth Uchel sydd yn awr mewn bri. Y mae hen amddiffynwyr Eglwys Loegr yn dangos un peth yn amlwg iawn, sef nad diwygio'r Eglwys Gatholig a wnaeth y Diwygwyr Protestannaidd, eithr ymwahanu oddi wrthi, mor wirioneddol ag yr ymwahanodd yr Ymneilltuwyr oddi wrth Eglwys Loegr; a chyfiawnhau'r ymwahaniad neu'r ymadawiad hwn y mae prif amddiffynnwr