Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwys Loegr yn ei lyfr. Mewn gwirionedd, dyfyniadau o'r "Deffynniad" fyddai'r rhesymau cryfaf yn erbyn y rhai sydd yn haeru nad yw Eglwys Loegr yn ddim amgen na pharhad difwlch o'r hen Eglwys Frytanaidd. Y mae'n resyn fod llawer o offeiriaid, a rhai o esgobion, Eglwys Loegr mor brysur gyda mân orchwylion fel nad ydynt yn cael amser i ymgydnabod â phrif awduron eu heglwys eu hunain.

Yr oedd gan y Jewel y soniwyd amdano, ran, gyda Cranmer, Latimer, ac eraill, yng nghyfansoddiad neu yn adolygiad "Llyfr yr Homiliau" hefyd. Casgl helaeth o bregethau ydyw'r Homiliau hyn i amddiffyn athrawiaethau ac egwyddorion Protestannaidd. Nid oes arnynt fawr o ddisgleirdeb nac eneiniad, ond y maent yn bur sylweddol, ac yn fuddiolach i'w darllen na'r rhan fwyaf o'r pregethau a ganmolir yn y dyddiau hyn. O ran cynllun a saerniaeth y maent yn rhagorol, ac yn gwbl rydd oddi wrth yr aml bennau a'r aml raniadau sy'n anurddo pregethau'r Puritaniaid. Y mae eu hawduron yn cadarnhau eu dadleuon â phob rhyw reswm ac â phob rhyw adnod y gellir meddwl amdanynt; ac am hynny fe all "Llyfr yr Homiliau" wasanaethu fel math o eiriadur i bregethwr ieuanc. Gŵr dysgedig ond anhysbys, a'i