dylai hyd yn oed lyfrau plant fod yn blentynnaidd, canys, hyd y gwelais i, y mae llyfrau plentynnaidd yn cadw plant yn blant; er hynny, fe ddylai pob llyfr a roir iddynt fod yn loyw fel y grisial, ac yn hoyw fel asgell fraith.
Mi a ddywedais yn y dechrau y soniwn yn y trydydd lle am lyfrau crefyddol sydd yn hanesyddol; ond y mae sôn am hynny bron yr un peth â sôn am bethau nid ydynt. Dyma'r llyfrau gorau o ran eu gwerth llenyddol: "Hanes y Ffydd Ddiffuant", gan Charles Edwards; yr ail ran o Ddrych y Prif Oesoedd, gan Theophilus Evans; a'r ail ran o "Hanes y Byd a'r Amseroedd", gan Simon Thomas. Nid yw defnydd nac iaith y llyfr olaf yn dangos bod ei awdur mor ddawnus a dysgedig â'r ddau awdur arall; ond yr oedd ynddo fwy o gymhwyster i fod yn hanesydd am ei fod ychydig yn llai hygoelus na hwynt-hwy. Y mae'n wiw darllen y llyfr hwn oblegid ei fod yn un o'r ychydig hen lyfrau hanesyddol ag ynddo fwy o ffeithiau nag o chwedlau; ac y mae'n wiw darllen "Drych y Prif Oesoedd" oblegid y disgrifiadau a'r cyffelybiaethau Homeraidd sydd ynddo, a "Hanes y Ffydd" oblegid yr aml feddyliau tlysion sydd yn wasgaredig ynddo; ond os na chofir o hyd wrth eu darllen mai math o nofelau hanesyddol ydynt, gallant wneud mwy o