Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwy nag un efengyl, yr hanes llawnaf yn unig a roir yn y Cysondeb hwn, ac yn fynych iawn fe ddodir ymadroddion rhwng crymfachau ynghanol y testun i egluro neu i gyflawni'r ystyr, ac i ddangos y cysylltiad sy rhwng y naill adnod neu'r naill adran a'r llall, ac ar ôl pob pennod y mae esboniad ar yr ymadroddion tywyllaf. Hwn yw'r esboniad cyntaf a wnaed yn yr iaith Gymraeg, ac anturiaf ddweud mai hwn yw'r esboniad gorau sy gennym ar yr "holl" Efengylau—y gorau o ddigon i bregethwyr ieuainc, i aelodau eglwysig ac aelodau'r Ysgol Sul. Mi wn na chyfrifir mo'r esboniadau gorau oll yn rhan o lenyddiaeth cenedl; ond y mae'r Cymraeg cywir a gloyw yr ysgrifennwyd yr esboniad hwn ynddo, ynghyd â gwerth y Rhagdraethawd maith sydd o'i flaen ar Hanes Crefydd, bron â'm temtio i gyfrif y llyfr yn un o lyfrau clasurol y Cymry. Y mae'n rhyfedd iawn nad ymgystadlai cyhoeddwyr Cymru mewn dwyn allan argraffiad newydd o'r llyfr hwn ac amryw o'r llyfrau eraill y crybwyllwyd amdanynt. Y mae'n arw o beth ei bod yn rhaid i'r genhedlaeth hon o Gymry ymfoddloni ar waelach llyfrau nag oedd gan y cenedlaethau o'r blaen. Y mae arnaf ofn y rhaid disgwyl wrth ryw Sais neu Americaniad i